Mae Liz Saville Roberts AS, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi galw ar i’r Canghellor beidio â “diffodd y tapiau economaidd” cyn i arbenigwyr iechyd cyhoeddus Cymru gytuno ei bod yn ddiogel i bobl ddychwelyd i’r gwaith.

Yn dilyn datganiad y Prif Weinidog ar godi rhai elfennau o’r cloi, mae canllawiau am ddychwelyd i’r gwaith yn wahanol yn awr yn Lloegr i’r hyn ydynt yn nhair cenedl arall y DG. Mae pryderon y gallai Llywodraeth y DG ddiweddu cefnogaeth ariannol ar draws y DG, er i lywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ddilyn cyngor arbenigwyr mewn iechyd cyhoeddus y dylai’r neges a’r polisi ‘arhoswch adref’ barhau.

Wrth ymateb i ddatganiad gan y Canghellor yn Nhŷ’r Cyffredin am y cynllun seibiant, dywedodd Ms Saville Roberts fod yn rhaid iddo aros lle mae cyhyd ag sydd angen “er mwyn gallu dilyn canllawiau arbenigwyr iechyd cyhoeddus ym mhob cenedl”.

Yn ystod y datganiad, cyhoeddodd Canghellor y DG na fyddai newidiadau i’r cynllun seibiant tan fis Gorffennaf, ac yna y byddai peth hyblygrwydd i ganiatáu gweithio rhan-amser wedi hynny. Dywedodd y Canghellor y caiff y mesur o roi 80% o gefnogaeth i gyflogau ei ymestyn tan fis Hydref.

Yn ystod y datganiad, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Yng Nghymru, nid yw cyfyngiadau ar fannau gwaith wedi newid, gan nad yw llawer rhan o’r wlad wedi cyrraedd uchafbwynt yr haint. Ni ddylai’r tapiau economaidd cael eu diffodd yn San Steffan cyn i’r argyfwng iechyd cyhoeddus leihau yng Nghymru.

“A wnaiff y Canghellor sicrhau yr erys y cynllun seibiant ar gael cyhyd ag sydd angen ac ar ffurf fydd yn galluogi dilyn canllawiau iechyd cyhoeddus gan arbenigwyr ym mhob cenedl.”

Yn dilyn y datganiad, dywedodd Ms Saville Roberts:

“Rwy’n croesawu’r estyniad a’r hyblygrwydd pellach yn y cynllun seibiant. Er bod Plaid Cymru wedi cynnig incwm sylfaenol cyffredinol brys fyddai’n gwarchod pawb, bu’r cynllun hwn yn achubiaeth i lawer.

“Rhaid i Ganghellor y DG sicrhau yn awr y gall y cenhedloedd, a rhanbarthau o Loegr tae’n dod i hynny, a all fod angen gweld cyfyngiadau ar deithio a gweithio yn aros ar gael yn hwy na mannau eraill, gael y gefnogaeth hanfodol hon pan fyddant ei angen.

“Rhaid i iechyd cyhoeddus fod yn flaenaf, a bydd pob ardal yn wynebu heriau unigryw o du’r feirws hwn am fisoedd ac efallai hyd yn oed am flynyddoedd i ddod. Rhaid i’r Canghellor ofalu bod unrhyw gefnogaeth ariannol yn ddigon hyblyg i ganiatáu’r gefnogaeth wedi ei dargedu; bydd hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau y gellir gweithredu a dilyn y canllawiau iechyd cyhoeddus a roddir gan arbenigwyr.”