Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys a’r Amgylchedd a Materion Gwledig, Ben Lake AS, wedi galw am “becyn unswydd o gefnogaeth economaidd” i amaethyddiaeth, wrth i fesurau cloi i lawr olygu y gallai ffermwyr Cymru golli blwyddyn gyfan o incwm.  

Mae pryderon fod y sector tymhorol sydd eisoes yn hynod fregus heb gael eu cefnogi gan becynnau cefnogaeth economaidd llywodraethau’r DG a Chymru mewn ymateb i’r argyfwng Coronafeirws.

Mae amaethyddiaeth Cymru yn ddiwydiant hanfodol, sy’n cyflogi dros 52,000 o weithwyr yn uniongyrchol ac y mae’n sylfaen hollbwysig i ddiwydiant bwyd a diod Cymru, a gynhyrchodd £7.4 biliwn mewn refeniw yn 2019 gan gyflogi dros 240,000 o weithwyr yn uniongyrchol ac yn y gadwyn gyflenwi ehangach.

Ynghyd â phryderon fod pecynnau cefnogi’r llywodraethau yn anwybyddu diwydiannau tymhorol fel amaethyddiaeth, nid ydynt chwaith yn gostwng y costau rhedeg cymharol uchel sydd gan amaethyddiaeth, gan gynnwys contractau prydlesu peiriannau ac offer, cyllid asedau ac ad-dalu dyledion.

Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DG i ddatblygu mesurau ariannol fel mater o frys i gefnogi diwydiannau tymhorol, ynghyd â chynnydd yn y cyllid i Lywodraeth Cymru fel bod modd creu pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth ariannol i fod yn sail i incwm ffermwyr Cymru.

Meddai Ben Lake AS:

“O gig oen i gynnyrch llaeth, mae amaethyddiaeth Cymru wedi wynebu gostyngiad yn y galw a mwy o bwysau ar gyflenwi, sydd yn gwthio’n ffermwyr i ymyl y dibyn. Er bod mesurau llywodraethau’r DG a Chymru yn rhoi peth cefnogaeth i’r economi yn ehangach, mae diwydiannau hynod dymhorol fel amaethyddiaeth angen ac yn haeddu pecyn unswydd o gefnogaeth economaidd.

“Wedi gaeaf caled lle’r oedd ffermwyr yn brwydro yn erbyn ansicrwydd Brexit a llifogydd, mae Coronafeirws wedi cau’r drysau yn wyneb economi wledig sydd eisoes wedi dioddef.

“Amaethyddiaeth Cymru yw asgwrn cefn yr economi wledig, lle mae dros 80% o’r nwyddau a’r gwasanaethau y mae ffermydd yn brynu o fewn cylch o 25 milltir o’r fferm.

“Byddai cwympo amaethyddiaeth yng Nghymru, heb sôn am mewn ardaloedd eraill fel De Orllewin Lloegr a Dwyrain Anglia, yn drychineb i gymunedau gwledig.

“Rhaid i Lywodraeth y DG adolygu ei fecanweithiau cefnogi presennol i i fusnesau gwledig fel mater o frys, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyllido pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth i i ffermwyr Cymru. Mae rhannau helaeth o’n heconomi, llawer o’n cymunedau a chymaint mwy yn dibynnu ar ymateb cadarn fydd yn galluogi ein ffermwyr i oroesi’r argyfwng hwn.”