Gallai'r bwlch gwariant gwerth £18 biliwn ym maniffesto Llafur y DU a chyhoeddwyd yn ddiweddar golygu torriadau o bron i £1bn o gyllideb Llywodraeth Cymru, mae Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, wedi rhybuddio heddiw.

Wrth siarad cyn Dadl Arweinwyr y BBC nos Wener, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth AS gyhuddo Llafur o gael rhaglen lywodraethu "heb dosturi" allai yrru miloedd yn fwy o deuluoedd yng Nghymru i dlodi.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

"Rhwng celwyddau Brexit ar fysiau a phartïon yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo, does fawr o syndod bod ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ar ei lefel isaf erioed. Dyna pam mae gonestrwydd mor hanfodol yn yr ymgyrch Etholiad Cyffredinol hon, a dyna pam mae cynllwyn Llafur a'r Torïaid o dawelwch ar doriadau sector cyhoeddus mor siomedig.

"Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn amcangyfrif bydd pwy bynnag sy’n ennill yr allweddi i rif 10 Downing Street ymhen pythefnos, bydd o leiaf £18 biliwn o doriadau i ddilyn.

"Yn seiliedig ar ein cyfran o'r boblogaeth, mae'r toriad cyfatebol i wasanaethau cyhoeddus Cymru a awgrymir gan gynlluniau gwariant Llafur yn swm anhygoel o £935 miliwn.

"Mae'n anodd deall ffigyrau fel hyn felly mae'n werth edrych ar wariant cyfatebol. Mae traean o gyllideb ysgolion blynyddol Cymru yn ei gyfanrwydd, cyflogau blynyddol dros 25,000 o nyrsys, cyllid ar gyfer gwerth deng mlynedd o Brydau Ysgol Gynradd Am Ddim i bob plentyn, bron y lefel gyfan o wariant y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar iechyd meddwl, neu fwy na dwywaith y cyllid refeniw blynyddol ar gyfer portffolio cyfan yr Economi.

"Mae maniffesto Llafur yn crybwyll tlodi 13 waith, ond eto mae'n ymddangos nad oes un polisi wedi'i ddyfeisio i leddfu problem sy'n parhau i efryddu llawer gormod o gymunedau. Nid oes hyd yn oed ymrwymiad i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn creulon y mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi rhybuddio’r wythnos hon bydd yn taro 670,000 o blant ledled y DU erbyn 2029.

"Dylai'r olygfa o ddiwedd i 14 mlynedd o reolaeth Dorïaidd ysbrydoli o leiaf rywfaint o obaith mewn pobl sydd yn dyheu am ddyfodol tecach, ond yn anffodus nid yw hynny'n wir. Trwy gyhoeddi rhaglen sydd heb dosturi, mae Llafur yn addo mwy o'r un peth ac yn bygwth dileu bron biliwn o bunnoedd o economi Cymru yn y broses.

"Nid dyma'r amser ar gyfer uchelgais yn ei fesur hanner. Aneurin Bevan o Lafur dywedodd fod pobl sy'n sefyll yng nghanol y ffordd yn cael eu rhedeg drosodd. Mae'r heriau'n rhy fawr aC mae gormod yn y fantol i newid llywodraeth a fydd yn cynrychioli fawr ddim mwy na newid dodrefn yn Downing Street.

"Rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn gwybod mae nid hyn yw’r gorau sydd i Gymru. Dyna pam rydym yn cynnig newid go iawn yn yr etholiad hwn. Nid symudiadau bach ar hyd Graddfa niweidiol San Steffan o dorriadau, ond camau beiddgar i gyflawni'r trawsnewidiad economaidd, strwythurol a chymdeithasol sydd ei angen i adeiladu cenedl decach, fwy uchelgeisiol."