Plaid Cymru yn barod i ymladd am degwch i Gymru yn yr etholiad cyffredinol
Fe fydd etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf, 2024.
Yn ymateb i’r cyhoeddiad am yr etholiad, meddai Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS,
“Dim ond pleidlais i Blaid Cymru fydd yn rhoi buddiannau gorau Cymru yn gyntaf yn yr etholiad hwn.
“Rydyn ni’n barod i fynd â’r frwydr hon i bleidiau Llundain i fynnu’r tegwch y mae Cymru ei angen ac yn ei haeddu.
"Mae'r Torïaid wedi chwalu'r economi ac mae pobl yn i dalu’r pris. Mae Llafur, ar y llaw arall, yn cymryd Cymru'n ganiataol. Wnaiff dim un o bleidiau Llundain roi Cymru'n gyntaf.
“Dim ond Plaid Cymru fydd yn mynnu tegwch i Gymru – bargen ariannu decach fel y gallwn fuddsoddi yn ein heconomi, ein gwasanaeth iechyd ac ysgolion; y biliynau sy’n ddyledus i ni mewn arian rheilffordd fel y gallwn gysylltu ein cymunedau o’r gogledd i’r de; a’r pwerau dros ein adnoddau naturiol, fel y gallwn adeiladu economi sy’n addas ar gyfer y dyfodol drwy greu swyddi gwyrdd sy’n talu’n dda.
“Ym Mhlaid Cymru, mae gennych chi ymgeiswyr wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau. Pencampwyr lleol cryf a fydd yn llais i Gymru yn San Steffan – nid llais San Steffan yng Nghymru. Ac mae mwy o ASau Plaid Cymru yn golygu mwy o leisiau’n gweiddi dros Gymru.