Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i’r Mesur Masnach a fyddai’n sicrhau bod gan y seneddau datganoledig, yn ogystal â Senedd y DG, gyfle i bleidleisio ar unrhyw gytundebau masnach rhyngwladol a’u cadarnhau.

Dywedodd llefarydd y Blaid ar Fasnach Ryngwladol, Ben Lake AS, fod y gwelliant yn rhoi i Senedd San Steffan “gyfle i ddangos fod y DG yn wir yn bartneriaeth o genhedloedd cyfartal”.  

Trafodir y Mesur Masnach ar lawr Tŷ’r Cyffredin heddiw (20 Gorffennaf). Bydd yn diffinio sut y bydd y DG yn gweithredu yng nghyswllt trafodaethau masnach rhyngwladol yn dilyn cyfnod trosiannol Brexit.

Pleidleisiodd un o seneddau rhanbarthol Gwlad Belg yn Wallonia yn erbyn cytundeb masnach rhwng Canada a’r UE yn 2016. Mae fframweithiau ar gael hefyd ar gyfer ymwneud seneddau rhanbarthol yn yr Almaen a buddiannau taleithiau yn yr Unol Daleithiau.

Ar hyn o bryd, nid oes rheidrwydd ar Lywodraeth y DG i gael cefnogaeth seneddau datganoledig neu San Steffan i lofnodi unrhyw gytundeb masnach.

Dywedodd Ben Lake AS:

“Bydd Cymru yn cael ei gadael gyda llai o lais dros ein dyfodol na senedd ranbarthol yng Ngwlad Belg.

“Mae’r gwelliant hwn yn rhoi cyfle i Lywodraeth San Steffan ddangos fod y DG yn wirioneddol yn bartneriaeth o genhedloedd cyfartal. Trwy roi llais i bob un o seneddau’r DG ar ein cysylltiadau masnach yn y dyfodol, gall San Steffan nid yn unig sicrhau tegwch cyfansoddiadol, ond cytundebau masnach gwell hefyd gan y bydd pob un o wledydd y DG yn cael eu cynrychioli’n iawn.

“Os bydd Llywodraeth San Steffan yn rhoi buddiannau pedair cenedl y DG yn flaenaf mewn unrhyw gytundeb masnach, does ganddyn nhw ddim i boeni amdano. Bydd yr holl seneddau yn pleidleisio ar unrhyw gytundeb

“Y broblem yw nad wyf yn ymddiried yng ngeiriau teg llywodraeth San Steffan na fyddant yn gostwng ein safonau bwyd nac yn rhoi ein GIG ar werth yn eu hawydd gwyllt am gytundeb masnach gydag UDA.”