Rhaid i’r corff chwaraeon dychwelyd i'r dull blaenorol o weithredu

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn condemnio penderfyniad Undeb Rygbi Cymru i osod gwaharddiad blanced ar Ferched Traws rhag cymryd rhan mewn rygbi elît yng Nghymru.

Yn eu datganiad ar y cyd, dywedodd Heledd Fychan AS – llefarydd dros Ddiwylliant a Chwaraeon, a Sioned Williams AS – llefarydd dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb:

“Mae penderfyniad Undeb Rygbi Cymru i wahardd athletwyr traws yn anghywir, gan ystyried y nifer fach iawn o athletwyr traws sy’n cystadlu yn gyffredinol mewn chwaraeon, a’r ffaith bod yna ddim athletwyr traws wedi eu cofrestru yn y gêm Cymreig.

“Mae’r adwaith yn gorymateb i fater sydd â goblygiadau ehangach i’r Cymru gynhwysol rydym am ei gweld. Datrysiad yw, i broblem sydd ddim yn bodoli.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ofyn am drafodaethau brys gydag URC ar y mater hwn yn unol â nodau'r Cynllun Gweithredu LHDTC+, sy'n rhan o'r cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

“Roedd y dull blaenorol - o ystyried pob athletwr fesul achos - yn llawer mwy cynhwysol a synhwyrol, a byddem yn annog URC i ailystyried ar frys.

“Mae'r ffordd y mae menywod traws yn cael eu heithrio gan gyrff chwaraeon ar draws y DU yn annog rhai sy'n defnyddio chwaraeon fel gorchudd ar gyfer eu trawsffobia a rhagfarn.

“Mae gan chwaraeon rôl allweddol wrth hyrwyddo adlewyrchiad cynhwysol, amrywiol o ddinasyddion ein byd, gan gynnwys athletwyr traws.

“Dylai cyrff chwaraeon wneud mwy i hyrwyddo cyfranogiad LHDTC+ mewn chwaraeon, fel rhan o ymdrech ehangach tuag at ffyrdd mwy iach o fyw, yn enwedig o ystyried y problemau iechyd meddwl a chyfraddau hunanladdiad i bobl draws.”