“Mae’r alwad yn glir gan nyrsys - mater i’r llywodraeth yw profi eu bod nhw’n gwrando” – Rhun ap Iorwerth AS

Heddiw mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio “pob grym datganoledig” sydd ganddyn nhw i wneud cynnig tâl gwell i nyrsys.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd dros iechyd a gofal bod nyrsys wedi ymlâdd ac mai canlyniadau anfwriadol diffyg gweithredu fyddai rhagor o nyrsys yn gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl.

Mae ymchwil gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dangos bod o leiaf 2,900 o swyddi gwag ar gyfer nyrsys cofrestredig y llynedd, a bod Llywodraeth Cymru “yn gyrru staff nyrsio i ffwrdd o’r Gwasanaeth Iechyd.

Bydd Plaid Cymru yn gwneud yr alwad ar Lywodraeth Cymru mewn dadl yn y Senedd a gyflwynwyd heddiw, dydd Mercher 23 Tachwedd, i roi cyflog tecach i nyrsys ac ail-negodi gyda nhw.

Ond mewn gwelliant i’r cynnig, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig dileu’r alwad hon.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS:

Mae nyrsys yn cael eu gor-weithio, heb eu talu digon ac wedi ymlâdd yn llwyr. Os nad yw’r newyddion bod gormod o nyrsys yn gadael eu galwedigaeth eisoes yn arwydd bod pethau'n ddifrifol anghywir yn y gwasanaeth gofal iechyd, yna mae'n rhaid i’r bleidlais ddiweddar dros streicio fod yn ddeffroad i’r llywodraeth.

Ond tra bod nyrsys yn galw am help, ydy Llywodraeth Cymru yn gwrando? Mae Plaid Cymru yn mynd a’r ddadl i’r Senedd gan alw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob grym sydd ar gael i lunio cynnig tâl gwell i'n nyrsys sy’n gweithio’n galed. Eto i gyd, yr unig gamau maen nhw wedi'u cymryd mewn ymateb, yw diwygio’r cynnig drwy ddileu'r alwad honno.

“Mae nyrsys Cymru yn haeddu tâl teg am eu gwaith, ond eto maent yn wynebu toriad cyflog mewn termau real, o ganlyniad i argyfwng economaidd San Steffan a cham-reolaeth Llywodraeth Cymru o’n gwasanaeth gofal iechyd. Nyrsys yw asgwrn cefn ein GIG, ond bydd diffyg cyflog teg yn gorfodi llawer mwy i adael, gan adael y gweithlu yn wannach byth. Yn y pen draw, cleifion fydd yn talu pris am gamreolaeth y Llywodraeth o’n gwasanaeth iechyd a gofal.