Tegwch wrth wraidd polisïau sydd yn wrthbwynt i “wactod moesol San Steffan”

Heddiw, bydd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, yn annerch Cynhadledd Wanwyn rithiol ei blaid, gan addo “gwella clwyfau dyfnach ein cenedl” gyda rhaglen lywodraethol ôl-Covid fydd yn creu economi sy’n gweithio i bawb a sicrhau bargen deg i deuluoedd.

Disgwylir i Mr Price ddweud y byddai Llywodraeth Plaid Cymru, pe bai'n cael ei hethol ar Fai 6ed, yn rhoi polisïau ar waith i fynd i'r afael â thlodi plant a'r argyfwng tai gan fuddsoddi i adeiladu’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gorau gyda mwy o staff ar gyglofau gwell a gofal cymdeithasol am ddim i bawb sydd ei angen.

Bydd polisïau allweddol eraill yn cynnwys:

- Gofal plant am ddim i bawb o 24 mis

- Toriad treth gyngor i filoedd o deuluoedd

Wrth annerch ail gynhadled rithiol y blaid yn ystod y pandemig, mae disgwyl i Adam Price ddweud:

“Y tu ôl i’r ffigurau dyddiol yn y penawdau dros y deuddeg mis diwethaf, mae trasiedïau dynol unigol. Ond mae graddfa ein dioddefaint yn tynnu sylw at wirionedd cyfunol dyfnach.

“Nid dyma yw’r wlad y dylem fod. Nid dyma yw'r wlad y gallwn fod. Ac nid dyma yw'r wlad rydyn ni am fod.

“Mae’r ystadegau’n adrodd y stori. Mae 70,000 o blant mewn tlodi yng Nghymru sydd ddim yn gymwys am brydau ysgol am ddim. 67,000 o deuluoedd ar restrau aros am dai.

“Mae dros hanner ein gweithwyr gofal yn cael eu talu llai na’r Cyflog Byw Go Iawn.

“Gadewch i hon fod y flwyddyn pan fyddwn yn dweud dim mwy. Dim mwy o blant yn mynd heb fwyd. Dim mwy o ddigartrefedd ac argyfwng tai. Dim mwy o gyflogau isel.

“Felly wrth i ni i gyd, yn unedig gyda’n gilydd, dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf dorchi ein llewys i dderbyn ein brechlynnau, gadewch inni hefyd ymrwymo i wneud y gwaith sydd angen i ni ei wneud i wella clwyfau dyfnach y genedl hon.

“Gadewch i ni ofyn i’n hunain “Pan fydd hyn i gyd drosodd, sut ydyn ni am i’n byd a’n Cymru fod yn wahanol?”

Wrth siarad yn yr un wythnos ag y dangosodd arolwg barn ITV y gefnogaeth uchaf i annibyniaeth Cymru a gofnodwyd erioed gyda 39% o’r rhai y gofynnwyd iddynt yn ymateb drwy ddweud y byddent o blaid ‘Ie’ mewn refferendwm, bydd Arweinydd Plaid Cymru yn ychwanegu:

“Nid yw Prydain yn gweithio i ni bellach - nid yw cenhedlaeth Prydain fy rhieni, lle dewr a gobeithiol, yn bodoli mwyach, mae wedi’i diddymu ac, yn ei lle, mae gennym y gwactod moesol hyn yn San Steffan.

“Rydyn ni'n genedl sy'n gwerthfawrogi yn anad dim caredigrwydd, empathi a chydweithrediad sydd yn rhan o’n system wleidyddol sy'n gynyddol seiliedig ar hunanoldeb a thrachwant.

“Mae'r pandemig wedi datgelu realiti Prydain fodern: gwladwriaeth a ddiffinnir gan dlodi eithafol, a reolir gan elit llygredig sy'n rhoi contractau i'w ffrindiau ac yn gwadu ei chymdogion.

“Ni all y dyfodol fod fel y gorffennol. Ac ni fydd e os benderfynwn ein dyfodol ein hunain.

 “Nid y tlodi rydyn ni’n ei weld o’n cwmpas fel cenedl yw ein tynged. Ond mae'n foment o wirionedd i ni.

 “Drwy ymafael yn y foment honno bydd dim byd sy’n amhosib.”