Tŷ’r Arglwyddi
Yr Arglwydd Dafydd Wigley
Mae gan Dafydd Wigley sedd yn Dŷ’r Arglwyddi dros Blaid Cymru. Ef yw llais Cymru yn uwch siambr San Steffan ac mae'n gweithio'n agos gyda'n Haelodau Seneddol.
Cafodd Dafydd Wigley ei eni yn Derby, Lloegr. Mynychodd Ysgol Ramadeg Caernarfon ac Ysgol Rydal cyn astudio ym Mhrifysgol Victoria ym Manceinion a hyfforddi fel cyfrifydd. Gweithiodd i'r cwmni Hoover fel Rheolydd Ariannol cyn iddo ddod yn Aelod Seneddol yn 1974.Daeth Dafydd Wigley yn Llywydd ar Blaid Cymru yn gyntaf yn 1981. Yn etholiadau cyntaf y Cynulliad yn 1999 daeth Dafydd Wigley yn Aelod Cynulliad ar ôl arwain y blaid i ganlyniad arbennig yn yr etholiad.
Ar ôl gyrfa hir yn gwasanaethu Cymru ar bob lefel wleidyddol, mae Dafydd Wigley yn parhau yn wleidydd sydd yn hawlio parch enfawr trwy Gymru, ac yn parhau i weithio'n ddiflino dros ein gwlad.