Plaid Cymru yn galw am fesurau i leihau dyled aelwydydd
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru i weithredu i leihau dyledion cartrefi y gaeaf hwn.
Galwodd Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, ar y ddwy Lywodraeth i weithredu mesurau a fyddai'n lleddfu'r baich ariannol ar aelwydydd ledled Cymru, gan alw am ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru i atal dyled, ac i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â chostau byw cynyddol.
Yn ôl Sefydliad Bevan, roedd 130,000 o aelwydydd ledled Cymru, 10% o'r holl aelwydydd, wedi syrthio ar ei hôl hi o ran talu biliau rhwng Ionawr a Mai 2021. Dros yr un cyfnod roedd 230,000 o aelwydydd, 17% o'r holl aelwydydd wedi benthyg arian.
Adlewyrchir prisiau cynyddol cyfleustodau mewn cynnydd yr ôl-ddyledion ar gyfer biliau'r cartref, gyda'r elusen ddyled StepChange yn adrodd bod y 33% o ôl-ddyledion cartrefi yn gysylltiedig â biliau Dŵr, 27% yn filiau trydan a 26% yn filiau nwy heb eu talu.
Fodd bynnag, y ganran fwyaf o ôl-ddyledion a amlygwyd gan StepChange yw treth y Cyngor sydd heb ei dalu, sef 35%.
Dywedodd Sioned Williams AS:
“Bydd y gaeaf hwn yn anodd i gymaint o aelwydydd ledled Cymru.
“Mae costau byw cynyddol wedi ychwanegu at bwysau ariannol eraill, heb unrhyw help ychwanegol yn dod o San Steffan i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
“Mae San Steffan wedi gwaethygu'r broblem mewn llawer o achosion, gan gynnwys diddymu’r codiad credyd cynhwysol o £20, a chael gwared ar y rhwyd ddiogelwch ffyrlo ymhell cyn y dylai fod.
“Yn y cyfamser, mae nifer o'r cynlluniau cymorth a gyflwynwyd er mwyn amddiffyn y rheiny sydd mwyaf agored i niwed naill ai wedi dod i ben neu ar fin gwneud.
“Er mwyn mynd i'r afael â chost gynyddol cyfleustodau, maen rhaid i San Steffan sefydlu llinell sylfaen o gymorth gan gyflenwyr ynni ar gyfer cwsmeriaid sydd â dyledion, a hynny fel mater o frys. Yn ogystal â hyn, rhaid diwygio'r cynllun rhyddhad treth tanwydd gwledig.”
Ychwanegodd Sioned Williams AS,
“Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd gamau y gallai eu cymryd, gan gynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi'u cronni yn ystod y pandemig.
“Mae hi hefyd yn bryd archwilio'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth a fyddai'n gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a cholegau, er mwyn atal dyled.
“Wrth i ni nesáu at y Nadolig, rwy'n gobeithio y byddwn yn medru cofio am y rhai sydd mewn angen, ond mae’n rhaid hefyd cofio bod angen cymorth drwy gydol y flwyddyn.”