Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf ym mhrisiau tai yn y DU

Wrth ymateb i ffigurau newydd gan Rightmove sy’n dangos bod Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf ym mhrisiau tai yn y DU, dywedodd Llefarydd Tai Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor AS,

“Pe bai angen prawf pellach arnom fod Cymru yng nghanol argyfwng tai yna dyma ni.

“Mae Cymru wedi gweld cynnydd o 2.3% ym mhrisiau tai yn ystod y mis diwethaf yn unig a chynnydd o 10.9% flwyddyn ar ôl blwyddyn yn gyffredinol. Mae pobl yn cael eu prisio allan o'u cymunedau ar gyflymder brawychus.

“Ac nid y Gymru wledig ac arfordirol yn unig sy’n dioddef. Mae’r cymoedd hefyd.

"Mae enillion wythnosol gros canolrifol yn Torfaen, er enghraifft, yn ddim ond £554.58 ond mae wedi gweld un o'r cyfraddau gwerthu uchaf ar 80%. Yn y cyfamser, mae disgwyl i bobl ifanc roi miloedd o bunnoedd mewn taliadau er mwyn bod a siawns o brynu eu cartref cyntaf yn eu cymuned leol. Mae'n afrealistig, yn annheg, ac yn gwbl anghynaladwy.

“Yn syml, nid yw’r farchnad dai yn adlewyrchu gallu pobl leol i brynu cartrefi yn eu cymunedau. Ni all y Llywodraeth gladdu eu pennau yn y tywod na chuddio tu ol i "ymgynghoriadau" neu "gynlluniau peilot". Mae angen ymyrraeth frys arnom - yn gyflym - i reoleiddio'r farchnad a mynd i'r afael â'r argyfwng hwn unwaith ac am byth, er mwyn ein cymunedau a'u dyfodol.