Dywed Plaid Cymru fod rhaid i bleidiau San Steffan nawr rhoi’r cyllid sy’n ddyledus i Gymru

Heddiw, mae’r Senedd wedi cefnogi’n unfrydol cynnig gan Blaid Cymru oedd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i ail ddynodi HS2 fel prosiect ‘Lloegr-yn-unig’, ac felly i rhoi’r ‘symiau canlyniadol sy’n ddyledus i Gymru’.

Mae’r cynnig wedi ei alw gan Blaid Cymru, yn ‘un o’r arwyddion cliriaf bod San Steffan wedi ei gael yn anghywir.’ Mae’r Blaid hefyd wedi dweud bod yr ‘amser wedi dod i San Steffan dalu’r hyn sy’n ddyledus i Gymru’. 

Galwodd ddadl Plaid Cymru yn y Senedd ddydd Mercher 26 Ebrill ar Lywodraeth y DG i unioni’r anghysondeb sydd ar hyn o bryd yn gweld y prosiect rheilffordd HS2, sydd gwerth £100 biliwn, yn cael ei hystyried fel prosiect ‘Cymru-a-Lloegr’ , er nad oes modfedd o drac yn cael ei osod yng Nghymru.

Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers amser bod £5 biliwn yn ddyledus i Gymru fel swm canlyniadol Barnett o brosiect HS2, sy’n cysylltu Llundain â Birmingham a Manceinion.

Yn ogystal â hyn, dylai’r cyhoeddiad o £39 biliwn i’w fuddsoddi i brosiect Northern Powerhouse Rail roi £1 biliwn ychwanegol i Gymru. Mae hwn hefyd yn cael ei ystyried fel prosiect Cymru a Lloegr ar hyn o bryd, er gwaethaf cysylltu Lerpwl â Hull.

Yn nadl y Senedd, gosododd Plaid Cymru’r fai am yr anghysondeb ariannol parhaus hwn ar San Steffan, lle mae’r Ceidwadwyr yn gwrthod ail-ystyried HS2 fel prosiect Lloegr yn unig, ond hefyd gyda’r Blaid Lafur a’i harweinydd, Keir Starmer, sydd wedi peidio ag ymrwymo i gydnabod HS2 fel prosiect Lloegr yn unig pe bai’n arwain Llywodraeth San Steffan yn y dyfodol.

Er bod Plaid Cymru wedi croesawu’r consensws trawsbleidiol ar y mater yng Nghymru, mae’r blaid wedi pwysleisio y bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Lywodraeth y DG, gan alw ar ganghennau Cymreig y pleidiau San Steffan i fynnu ymrwymiad at gyfranddaliadau teg gan eu pleidiau yn Llundain fel y gall Cymru drwsio’i system drafnidiaeth sydd wedi hen dorri.

Dywedodd Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru dros yr Economi:

 “Mae dadl Plaid Cymru yn y Senedd heddiw wedi gweld pob plaid yn cytuno bod Cymru yn haeddu ei chyfran deg o gyllid o ganlyniad i HS2.

 “Dyma un o’r arwyddion cliriaf bod San Steffan wedi ei chael hi’n anghywir ar HS2 ers nifer o flynyddoedd.

 “Mae Cymru’n talu ei chyfran deg o drethi i’r pot, ond dydyn ni ddim yn cael ein cyfran deg yn ôl wrth San Steffan.

 “Erbyn hyn, mae’r ffigwr sy’n ddyledus i Gymru o HS2 wedi cyrraedd y swm anhygoel o £5 biliwn. Os ychwanegwch chi’r brosiect Northern Powerhouse Rail yn yr un modd, yna mae gennych chi £6bn sy’n ddyledus i Gymru o San Steffan. Mae hynny’n £6bn y bydden ni’n gallu ei ddefnyddio tuag at drwsio ein system drafnidiaeth yng Nghymru, sydd wedi hed dorri, a mynd ati i gysylltu ein cymunedau o’r gogledd i’r de.

 “Er gwaethaf y consensws, nid yw Sunak na Starmer wedi ymrwymo at roi i Gymru yr hyn sy’n ddyledus i ni ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf. Rwy’n annog pob Aelodau o’r Senedd, o bob plaid a gefnogodd gynnig Plaid Cymru, i annog eu cydweithwyr yn San Steffan i ymrwymo at roi y cyfran deg i Gymru.”

 Cafodd cyllid teg i Gymru yn sgil HS2 hefyd ei godi yn y sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidogion heddiw gan Liz Saville Roberts AS, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan. Dywedodd hithau wrth y Prif Weinidog y byddai cost cyswllt rheilffordd o’r Gogledd i’r De i Gymru yn ffracsiwn o’r pris sy’n dyledus i Gymru o ganlyniad i HS2.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

 “Er syndod mawr, mae’n rhaid i unrhyw deithiwr sydd am fynd ar y trên o ogledd i dde Cymru fynd trwy Loegr.

 “Byddai cysylltu Cymru o’r gogledd i’r de yn costio dau biliwn o bunnoedd.

 “Mae’r Prif Weinidog yn sôn am ‘redeg i ffwrdd ag arian pobl eraill’ ond mae ei Lywodraeth yn amddifadu Cymru o chwe biliwn o bunnoedd drwy ddyfarnu bod cysylltiadau rheilffordd rhwng gogledd a de Lloegr fel HS2 rhywsut o fudd i Gymru.

 “A fydd e’n pledio’n euog i’r Great Welsh Train Robbery?”