Rhaid i Lafur ychwanegu treth etifeddiant i'w restr hir o droeon-pedol
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Lafur y DU i ddileu eu newidiadau 'dinistriol' i dreth etifeddiaeth ffermydd, a'i ychwanegu at y 'rhestr hir' o droeon-pedol y Llywodraeth.
Wrth siarad yn Ffair Aeaf Amaethyddol Brenhinol Cymru, mae llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig, Llyr Gruffydd AS, wedi ymosod ar newidiadau'r Llywodraeth Lafur i Ryddhad Eiddo Amaethyddol a Rhyddhad Eiddo Busnes, sydd ar fin 'dinistrio' ffermydd teuluol.
Mae Mr Gruffydd wedi galw ar y Canghellor i wneud tro-pedol ar y newidiadau, yn debyg i'w penderfyniadau i wneud tro-pedol ar godiadau treth incwm yn y Gyllideb sydd i ddod, ei thro-pedol ar Daliad Tanwydd y Gaeaf, a tro-pedol ei Llywodraeth ar y diwygiadau lles arfaethedig.
Daw hyn ar ôl i adroddiad gan y pwyllgor Materion Cymreig sy’n tynnu sylw at sut mae'r newidiadau i'r dreth etifeddiant wedi creu 'hinsawdd o ansicrwydd a dryswch' i ffermwyr Cymru.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros faterion gwledig, Llyr Gruffydd AS:
"Mae Cyllideb Llywodraeth y DU yn brysur yn troi i mewn i gyllideb tro-pedol. Roedd sgrapio'r cap dau-blentyn ar fudd-daliadau allan, nawr mae i mewn. Roedd codi treth incwm ynddo, nawr mae o allan. Cyllideb hokey-cokey gan Lywodraeth sydd mewn grym ond yn amlwg allan o reolaeth.
"Mae o leiaf un polisi arall lle byddwn i'n croesawu tro-pedol arall. Mae hynny ar dreth etifeddiant fferm. Rwyf wedi sefyll i fyny yn y Senedd ar achlysuron di-ri i dynnu sylw at ffolineb y newidiadau arfaethedig a'r effaith andwyol y bydd yn ei gael.
"Mae'n bolisi a fydd yn gwneud niwed parhaol i'n ffermydd teuluol bach yng Nghymru, polisi sy'n targedu'r union bobl sy'n ein bwydo, sy'n gofalu am ein tir, sydd ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd ac yn gwrthdroi colled natur. Nhw yw'r rhai sy'n cynnal ein heconomi wledig ac sy'n sail i wead cymdeithasol a diwylliannol ein cymunedau gwledig.
"Mae'r rhan fwyaf o'n ffermydd teuluol yn dlawd o arian parod. Nid oes ganddyn nhw'r cyfalaf i ysgwyddo baich y dreth enfawr hon. Bydd yn gorfodi gwerthu tir gan wneud ffermydd yn llai hyfyw ac yn llai cynaliadwy wrth iddynt drosglwyddo ymlaen i'r genhedlaeth nesaf.
"Fy neges i Rachel Reeves yw, os gallir gwneud tro-pedol ar dreth incwm yna gallwch chi wneud tro-pedol ar dreth etifeddiaeth fferm hefyd. Mae angen dileu'r dreth fferm deuluol ac mae Cyllideb y DU'r wythnos nesaf yn gyfle perffaith i wneud hynny."