Mae Annibyniaeth i Gymru yn opsiwn cyfansoddiadol “ymarferol” i Gymru’r dyfodol, mae adroddiad interim arloesol Comisiwn Annibynnol Cymru ar Ddyfodol Cyfansoddiadol wedi dweud.

Sefydlwyd y Comisiwn, dan gadeiryddiaeth cyn Archesgob Cymru Rowan Williams, a’r Athro Laura McAllister, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, gan y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021 i ystyried a datblygu opsiynau ar gyfer diwygio cyfansoddiadol o fewn y Deyrnas Unedig ochr yn ochr âg opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru.

Daeth ei adroddiad interim, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 7 Rhagfyr 2022), i’r casgliad nad oedd “y status quo” neu “ddiddymu datganoli” yn sail “ddibynadwy” na “chynaliadwy” ar gyfer llywodraethu Cymru yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad wedi’i groesawu gan Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS a ddywedodd na ellid “gorbwysleisio’i arwyddocâd fel yr adroddiad cyntaf erioed gan lywodraeth Cymru i gydnabod annibyniaeth fel ffordd “ymarferol” ymlaen ar gyfer dyfodol Cymru.

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru fod yr adroddiad yn cadarnhau dadl Plaid Cymru nad oedd y “status quo” cyfansoddiadol yn gweithio i Gymru ac yn ailadrodd cred ei blaid mai annibyniaeth yw’r ffordd orau o sicrhau’r “dyfodol economaidd gwyrddach, a chryfach a’r tegwch y mae cymunedau Cymru angen ac yn haeddu ar frys”.

Bydd Plaid Cymru yn cyhoeddi ei chyflwyniad i’r Comisiwn yn llawn heddiw dan y teitl “Y Ffordd Tuag at Annibyniaeth” (cyhoeddwyd Y Lolfa) yn y Deml Heddwch, Caerdydd.

Dywedodd Mr Price fod y dystiolaeth yn amlinellu “datblygiad mawr ym meddylfryd Plaid Cymru ar annibyniaeth” ac yn cynnwys cynigion ar gyfer Senedd sofran fel cam interim tuag at annibyniaeth, ar ffurf Cymdeithas Rydd i Gymru (Free Association)

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS,

“Yr adroddiad pwysig hwn yw’r adroddiad cyntaf gan y llywodraeth i gydnabod bod annibyniaeth i Gymru yn ffordd gredadwy ac ymarferol ymlaen ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

“Ni ellir gorbwysleisio arwyddocâd hyn.

“Nid yn unig y mae’n ailgadarnhau dadl Plaid Cymru nad yw’r status quo yn gweithio i Gymru ond mae’n ei gwneud yn glir ein bod yn gaeth i economi’r DU sydd wedi’i siapio er budd De-ddwyrain Lloegr a Dinas Llundain. ac nad yw model economaidd y DU hwn yn sicrhau ffyniant i Gymru a does dim unrhyw obaith o wneud hynny ychwaith.

“Mae’r trefniadau datganoli presennol yn anghynaladwy ac ni allant bara. Mae ffederaliaeth yn ffordd i nunlle. Cred Plaid Cymru mai annibyniaeth yn unig all sicrhau’r dyfodol economaidd gwyrddach, cryfach a’r tegwch y mae cymunedau Cymru eu hangen ac yn eu haeddu.

“Dyna pam rydyn ni heddiw yn cyhoeddi ein tystiolaeth i’r comisiwn yn llawn – sy’n amlinellu datblygiad mawr ym meddylfryd Plaid Cymru ar annibyniaeth ac yn gwneud cynigion ar gyfer Senedd sofran fel cam interim tuag at annibyniaeth, ar ffurf Cymdeithas Rydd i Gymru.

“Rydym eisiau sicrhau annibyniaeth cyn gynted ag y gallwn. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod na fydd annibyniaeth yn digwydd dros nos. Yn yr un modd â’n profiad o ennill y refferenda i sefydlu a chryfhau ein Senedd, byddwn yn adeiladu’r ffordd i annibyniaeth gyda’r adnoddau gwleidyddol sydd gennym, boed yn flociau adeiladu, yn gerrig sarn neu’n bontydd.”

“Rydym yn diolch i’r Comisiwn am eu gwaith hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen at ymgysylltu â nhw ymhellach dros y misoedd nesaf, wrth i ni barhau i sgwrsio â phobl Cymru ar greu dyfodol gwell i’n cymunedau.

“Wedi’r cyfan, nid rôl un blaid yw creu Cymru annibynnol, ond gwaith cenedl gyfan, ei holl bobl a’i safbwyntiau."