Lansiad adroddiad y Comisiwn Annibyniaeth
Mae'r Comisiwn Annibyniaeth wedi cyhoeddi eu hadroddiad 'Cyrchu Cymru Annibynnol'.
Dechreuodd y comisiwn annibyniaeth eu gwaith yn syth ar ôl etholiad cyffredinol y DU ym mis Rhagfyr 2019 ar gais Arweinydd Plaid Cymru Adam Price gyda’r dasg o gynhyrchu argymhellion ar ffyrdd y dylai Llywodraeth Plaid Cymru baratoi ar gyfer cynnal refferendwm ar annibyniaeth.
Heddiw, mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi eu hadroddiad.
Carwn ddiolch i'r Comisiwn am eu gwaith rhagorol dros y flwyddyn a aeth heibio. Bydd Plaid Cymru nawr yn ystyried yr argymhellion dros y misoedd nesaf cyn penderfynu pa argymhellion i'w gweithredu fel polisi plaid swyddogol.
Mae rhywbeth yn digwydd yng Nghymru. Mae'r gefnogaeth i annibyniaeth ar ei uchaf erioed. Mae ein cenedl ar gerdded a phobl yn deffro i'r syniad fod annibyniaeth yn bosib.
Bydd yr adroddiad hwn yn chwarae rhan hanfodol yn y sgwrs genedlaethol ar annibyniaeth. Wedi'r cyfan, mae creu'r Gymru newydd yn waith y genedl gyfan, ei holl bobl a'u holl safbwyntiau. Byddwch yn rhan, ymunwch yn y sgwrs – ac ymunwch â Phlaid Cymru.
Darllena'r adroddiad yma.
Crynodeb o'r Adroddiad a'i Argymhellion:
- Mae Cymru, â’i Senedd a’i phwerau ei hun, eisoes ar daith tuag at annibyniaeth. Bydd cwblhau’r daith yn golygu cytuno ar gyfansoddiad sofran. Dylid cyflawni hyn drwy gyfres o gamau eglur, cyfreithiol, wedi’u dwyn i ben gan wasanaethyddion cyhoeddus, yn cynnwys y farnwriaeth, nid yn unig yng Nghymru ond mewn awdurdodaethau eraill. Mae cynaliadwyedd a dedwyddwch cenedlaethau’r dyfodol yn werthoedd Cymreig creiddiol a ddylai fod yn ganolog i gyfansoddiad Cymru annibynnol.
- Rhaid i Gymru gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân. Nid yw annibyniaeth yn rhagamod i hyn ond bydd angen dileu’r cadw cyffredinol (general reservation) i San Steffan sy’n berthynol i awdurdodaeth gyfreithiol. Dylai Llywodraeth Plaid Cymru weithredu argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.
- Mae pobl Cymru yn ganolog i broses annibyniaeth ac mae angen iddyn ddeall yn glir yr opsiynau sydd ar gael i’w dyfodol cyfansoddiadol. Cyn cael annibyniaeth dylid sefydlu Comisiwn Cenedlaethol Statudol a Rheithgorau Dinasyddion cysylltiedig er mwyn sicrhau i’r graddau mwyaf posibl bod y bobl yn ymwybodol o, yn cyfrannu at, ac yn ymwneud â’r broses.
- Dylai’r Comisiwn Cenedlaethol brofi barn pobl Cymru mewn refferendwm ymchwiliol cychwynnol sy’n cyflwyno’r opsiynau cyfansoddiadol. Dylid defnyddio’r deilliant i berswadio Llywodraeth San Steffan y DU i 17 Crynodeb gweithredol gytuno i refferendwm deuaidd ar y status quo yn erbyn yr hoff ddewis a fynegwyd yn y refferendwm cyntaf.
- Bydd y Comisiwn Cenedlaethol yn drafftio Cyfansoddiad i Gymru tra’n ymgynghori â’r gynrychiolaeth ehangaf posibl o bobl Cymru, gan gadw mewn cof amrywioldeb a chynhwysiant, drwy Reithgorau Dinasyddion.
- Ein barn bendant ni yw y dylai tynged hirdymor Cymru annibynnol fod fel aelod cyflawn o’r Undeb Ewropeaidd. O gofio pleidlais Brexit 2006, a’r adladd wedyn, nid yw hynny ar y gorwel agos. Serch hynny mae’r adroddiad yn argymell ffyrdd y gallai Cymru saernïo cydberthynas agosach â’r Undeb Ewropeaidd, wrth agosáu at annibyniaeth, ac wedi hynny.
- Fe wyneba Cymru heriau ymarferol rhag dod yn aelod o’r UE os arhosa Lloegr allan, ond bydd modd goresgyn y rhain. Dylai’r Comisiwn Cenedlaethol archwilio dichonoldeb bod Cymru, ar wahân i Loegr, yn dod yn aelod o’r Ardal Fasnach Rydd Ewropeaidd (Efta), sy’n golygu aelodaeth o Farchnad Sengl yr UE. Fel aelod o Efta byddai Cymru annibynnol mewn sefyllfa, yn ei hawl ei hun, i negodi cytundeb masnach-rydd â Lloegr.
- Aelodaeth neu beidio, dylai Llywodraeth Plaid Cymru sefydlu cydberthynas arbennig â’r UE. Y flaenoriaeth gyntaf fyddai cymryd rhan yn rhaglenni Erasmus a Horizon, gan esbonio’n glir i bobl Cymru pam bod hyn yn hanfodol bwysig.
- Bu Cymru a’r Alban mewn perthynas agos â Lloegr ers canrifoedd. Mae’r Comisiwn wedi archwilio cydberthynas newydd, sylfaenol o wahanol, rhwng y tair cenedl, yn hytrach nag ymwahanu’n llwyr. Dylai’n Comisiwn Cenedlaethol arfaethedig gynnal trafodaethau â Llywodraeth yr Alban er mwyn mynd i’r afael â’r heriau i gyrraedd consensws ar gydberthynas a strwythurau i’r dyfodol, gan gynnwys posibilrwydd cydberthynas gydffederal, fel sy’n cael ei archwilio yn ein hadroddiad ym modelau Benelux a Chynghrair yr Ynysoedd
- Mae economi Cymru yn dioddef gan wendidau strwythurol cronig a osodwyd arni ers amser hir ac maen nhw’n heriol. Yn yr adroddiad hwn fe esboniwn mai’r rheswm pam y methodd Cymru â symud ymlaen yn economaidd yw, nid ei bod yn rhy fach neu’n rhy dlawd, ond ei bod wedi’i chaethiwo o fewn economi a siapiwyd i raddau llethol gan fuddiannau Dinas Llundain. Profodd y model methiannus hwn na all ddwyn ffyniant i Gymru, ac nad yw’n debyg o wneud hynny i’r dyfodol. Byddai Cymru annibynnol yn rhydd i newid hyn. Nid rhanbarth ddarostyngedig i fuddiannau Llundain a De-ddwyrain Lloegr fyddai hi mwyach a fyddai hi ddim ychwaith yn gorfod dilyn polisïau a benderfynir gan Lywodraeth y DU.
- Mae gwersi i’w dysgu gan Iwerddon, gynt yn un o rannau tlotaf a mwyaf ymylaidd y DU. Erbyn hyn mae’n genedl falch annibynnol, un o rannau cyfoethocaf yr Ynysoedd hyn, a chanddi sedd yn y Cenhedloedd Unedig.
- Dylid sefydlu asiantaethau newydd i hyrwyddo twf busnesau bach, datblygu busnesau canolig eu maint, mewnfuddsoddi, cynyrchiant ac allforio. Dylai ffocws mewnfuddsoddi fod ar fusnesau a all gynnig swyddi ansawdd uchel, mewn technoleg, iechyd a chynhyrchion soffistigedig i’r defnyddiwr. Dylid dyfnhau cysylltiadau ag alumni prifysgolion Cymru dramor. Yn sgil argyfwng Covid-19 mae angen rhagor o bwyslais ar gynhyrchu a chaffael lleol.
- Dylai Llywodraeth newydd adolygu sector addysg uwch Cymru o’r bôn i’r brig er mwyn peri iddo roi blaenoriaeth i ddiwallu anghenion economi a chymdeithas yng Nghymru. Dylai roi ar waith fesurau i annog rhagor o 19 Crynodeb gweithredol efrydwyr Cymru i aros yng Nghymru i dderbyn eu cymwysterau ac i ddilyn eu gyrfaoedd, a bod y sawl sydd yn gadael Cymru yn cael eu hannog i ddychwelyd.
- Dylai penderfyniadau ynghylch gosod y gyllideb a gweithio trawsadrannol o fewn Cabinet Cymru gael eu cymryd mewn ffordd fwy casgliadol a chydlynus. Dylid rhoi yn ei le gynllun delifro strategol ar gyfer Rhaglen y Llywodraeth, gydag amserlen blynyddol wedi’i chytuno a thargedau dros gyfnod y tymor pum mlynedd. Dylai’r Adran Gyllid ymgymryd â mwy o rôl Trysorlys a chan weithio’n agos â Swyddfa’r Prif Weinidog, sicrhau mwy o gydlynu delifro polisi yn ôl targedau ar draws Llywodraeth Cymru yn gyfan.
- Dylid adarchwilio gwasanaeth sifil Cymru gan arwain at wahanu gwneud polisi economaidd oddi wrth ei roi ar waith. Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynigion ac amserlen er creu Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru, gyda diwylliant, graddau a grisiau cyflog ar y cyd ar draws yr holl sefydliadau sector cyhoeddus, yn cynnwys gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. I’r perwyl yma bydd angen i’r ddarpariaeth bresennol sy’n cadw pwerau perthynol i’r gwasanaeth sifil yn San Steffan gael ei diddymu