Mae Ann Davies AS a Llyr Gruffydd AS yn dweud y dylai Llywodraeth y DU gyflwyno treth ar gyfoeth mawr yn lle ‘targedu’r rhai sy’n cynnal ein cymunedau gwledig’

Ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru, mae Llefarydd Amaethyddiaeth Plaid Cymru yn San Steffan, Ann Davies AS, wedi galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi eu newidiadau arfaethedig i Ryddhad Eiddo Amaethyddol (Agricultural Property Relief), gan rybuddio y bydd y polisi yn gwneud “niwed parhaol” i ffermydd teuluol Cymru. 

 

Wrth siarad o Lanelwedd, dywedodd Ms Davies, ar ôl sawl tro pedol mewn polisïau amrywiol, ei bod hi’n bryd i Lafur “ychwanegu’r dreth fferm niweidiol hon at y rhestr.” 

 

Dywedodd llefarydd Amaethyddiaeth Plaid Cymru yn y Senedd, Llyr Gruffydd AS, fod y rhan fwyaf o ffermwyr Cymru yn “dlawd o ran arian parod” a bod “llawer â bodolaeth o’r llaw i'r genau”. 

 

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno cap ar Ryddhad Eiddo Amaethyddol a Busnes o fis Ebrill 2026, sy'n golygu y gallai ffermydd teuluol sydd â gwerth uwch na’r trothwy hwnnw wynebu treth etifeddiaeth am y tro cyntaf mewn 40 mlynedd. Er gwaethaf honiadau mai dim ond 500 o ffermydd y flwyddyn fydd yn cael eu heffeithio, mae undebau ffermio Cymru yn rhybuddio y gallai mwyafrif helaeth y ffermydd teuluol gweithredol yng Nghymru fod yn gymwys oherwydd gwerth cynyddol tir, peiriannau ac asedau. 

 

O ofynion profi a goblygiadau ariannol yn sgil cyfyngiadau i rwystro lledaeniad firws y Tafod Glas, i effeithiau tywydd sych a chynnes ar gnydau a phorfeydd, bydd y rheolau treth etifeddiant newydd yn cael eu cyflwyno mewn cyfnod o bwysau ariannol cynyddol ar ffermwyr. 

 

Mae Plaid Cymru yn galw am:

 

  • Asesiad effaith penodol i Gymru sy'n cynnwys ffermydd tenantiaid a rhai teuluol sydd wedi’i trosglwyddo dros genedlaethau 

 

  • Amddiffyn ffermydd teuluol sy'n cynhyrchu bwyd yn weithredol rhag treth etifeddiaeth

 

  • Cyflwyno treth ar gyfoeth mawr – gan dargedu asedau gwerth dros £10 miliwn 

 

 

Dywedodd Ann Davies AS: 

“Ar ôl sawl tro pedol, rhaid i Lafur nawr ychwanegu eu treth fferm niweidiol at y rhestr. Mae newidiadau i'r Rhyddhad Eiddo Amaethyddol yn bolisi annheg iawn sy'n targedu'r bobl sy'n ein bwydo, yn gofalu am ein tir, ac yn cynnal ein cymunedau gwledig. Bydd yn gwneud niwed parhaol i ffermydd teuluol Cymru. 

“Mae'n bolisi sy'n seiliedig ar y gred bod ffermwyr yn gyfoethog – ond nid yw hynny’n wir yng Nghymru lle mae ffermwyr ar ein ucheldir yn gwarchod y tir ac yn gwneud ychydig iawn o elw. Mae Llywodraeth y DU yn cyfaddef nad ydynt wedi gwneud unrhyw asesiad effaith penodol ar Gymru. Mae hynny'n annerbyniol, a rhaid iddynt newid hyn ar unwaith. 

“Mae Plaid Cymru yn credu y dylai'r rhai cyfoethocaf, rheiny sydd â mwy na digon, dalu eu cyfran deg. Ond mae polisi Llywodraeth y DU yn rhy eang ac yn targedu'r bobl anghywir. Yn lle hynny, gallent cyflwyno treth ar gyfoeth mawr - treth o 2% ar asedau gwerth dros £10 miliwn a allai godi dros £20 biliwn y flwyddyn. Dyna'r ffordd deg a mwyaf blaengar o ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn iawn a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. 

“Mae Sioe Frenhinol Cymru yn gyfle i ddathlu popeth y mae ein ffermwyr yn ei gyfrannu i'n cymdeithas. Ond oherwydd y polisi hwn, maen nhw'n bryderus ynghylch eu gallu i barhau i gynhyrchu bwyd yn y dyfodol. Gyda gofynion y Tafod Glas a sychder difrifol yn dwysáu’r pwysau ariannol sydd eisoes ar ffermwyr, rhaid i Lafur newid cyfeiriad – a rhaid iddyn nhw wneud hynny nawr.” 

 

 

Ychwanegodd Llyr Gruffydd: 

“Mae’r rhan fwyaf o’n ffermydd teuluol yn dlawd o ran arian parod ac mae gan lawer fodolaeth o’r llaw i’r genau. Does ganddyn nhw mo’r cyfalaf i ysgwyddo baich y treth enfawr hwn. 

“Er ei bod hi’n iawn targedu’r rhai sy’n prynu tir at ddibenion osgoi treth, ni ddylai ein ffermydd teuluol gweithredol gael eu dal yng nghanol hyn i gyd. Rydym wedi annog y Llywodraeth i edrych ar ddulliau eraill fel system adfachu a ddefnyddir yn llwyddiannus mewn gwledydd eraill. Dim ond os caiff tir ei werthu o fewn hyn a hyn o flynyddoedd ar ôl ei etifeddu y byddai’n cael ei drethu wedyn.  

“Yn anffodus, bydd polisi’r Canghellor yn gorfodi busnesau, sydd eisoes dan bwysau difrifol, i werthu eu tir gan eu gwneud yn llai cynaliadwy yn y dyfodol. Bydd Plaid Cymru yn brwydro yn erbyn y dreth fferm deuluol tan ein bod yn gweld newid mewn polisi.”