Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, wedi beirniadu Llafur yn y Senedd am wanhau galwadau ar Lywodraeth y DU i weithredu ar argyfwng Gaza a sicrhau heddwch cyfiawn a pharhaol.

Heddiw, arweiniodd Plaid Cymru ddadl yn y Senedd yn annog llywodraeth y DU i gefnogi gwaith y Llys Troseddol Rhyngwladol yn ei hymchwiliad i droseddau rhyfel, i roi terfyn ar allforion arfau i Israel yn unol â chyfraith ryngwladol, ac i gondemnio sylwadau'r Arlywydd Trump ar lanhau ethnig.

Yn flaenorol, arweiniodd y Senedd y galwadau am gadoediad ym mis Tachwedd 2023, sef un o'r seneddau cyntaf i wneud hynny. Ers hynny, mae dros 60,000 o farwolaethau Palestinaidd.

Wnaeth arweinydd Plaid Cymru hefyd erfyn ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gefnogaeth ddyngarol bellach, i gefnogi cymunedau yng Nghymru sydd â chysylltiadau Palesteinaidd ac Israelaidd, ac i sicrhau nad yw arian cyhoeddus Cymru yn cyfrannu at droseddau rhyfel.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

"Ni all Cymru, ac ni ddylai aros yn dawel yn wyneb anghyfiawnder mor ddwys. Mae dyletswydd arnom i godi llais, ac i ymuno ag eraill yn rhyngwladol i roi pwysau ar y rhai sydd â dylanwad uniongyrchol i'w ddefnyddio wrth geisio heddwch a chyfiawnder.

“Er ein bod yn croesawu cefnogaeth unedig y Senedd i rai o alwadau Plaid Cymru, rydym yn siomedig na wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru gefnogi galwadau i gynnal cyfraith ryngwladol trwy atal gwerthu arfau i Israel na chefnogi ein galwadau i gondemnio naratif peryglus a bygythiol Trump o lanhau ethnig.

"Mae Plaid Cymru yn glir bod gan bob un ohonom rôl i'w chwarae i sicrhau heddwch parhaol trwy ddatrysiad dwy wladwriaeth."