Diwrnod Rhyngwladol y Merched: Liz Saville Roberts AS yn galw am amddiffyniadau cryfach yn erbyn trais ac aflonyddu yn y gwaith
‘Rhaid inni ddefnyddio’r holl bwerau sydd gennym i gadw menywod yn ddiogel’ – Liz Saville Roberts AS
Heddiw (dydd Iau 6 Mawrth), cyn Diwrnod Rhyngwladol y Merched, cyflwynodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, araith yn y Senedd yn annog amddiffyniadau cryfach yn erbyn trais ar sail rhywedd ac aflonyddu yn y gweithle.
Gan dynnu sylw at yr angen dybryd i weithredu, cyflwynodd Ms Saville Roberts Fesur Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 (Diwygiad), fydd yn mynd drwy ei ail ddarlleniad ar 7 Mawrth.
Wedi'i ddatblygu ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh a Hawliau Menywod, mae'r Mesur yn ceisio diwygio Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 i osod gofyniad cyfreithiol ar gyflogwyr i gymryd camau rhagweithiol i atal trais ac aflonyddu yn y gweithle.
Mae hefyd yn darparu amddiffyniadau gwell i fenywod a merched ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ddatblygu a chyhoeddi fframwaith cynhwysfawr ar drais ac aflonyddu yn y gweithle. Ar hyn o bryd, nid yw’r HSE yn dynodi trais ar sail rhywedd fel perygl yn y gweithle ac nid yw’n cael ei ystyried fel y prif awdurdod ar gyfer materion fel aflonyddu, bwlio, neu gam-drin domestig mewn lleoliadau proffesiynol.
Byddai’r Mesur hwn yn newid hynny, gan sicrhau bod trais ar sail rhywedd yn cael sylw fel mater diogelwch difrifol yn y gweithle.
Yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched, dywedodd Liz Saville Roberts AS:
“Pan rydyn ni’n siarad am gymdeithas sy’n gyfartal rhwng y rhywiau, gadewch i ni fod yn glir ynglŷn â’r hyn rydyn ni’n ei olygu. Yn y cartref, mewn mannau cyhoeddus ac yn y gweithle.
“Canfu arolwg barn gan y TUC yn 2023 fod tri ym mhob pump o fenywod wedi profi aflonyddu rhywiol, bwlio neu gam-drin llafar yn y gweithle. Ac mae adroddiadau o ymosodiadau rhywiol, treisio, stelcian a rheolaeth orfodol gan gydweithwyr yn cyfrif am 56% o’r galwadau a wneir i linell gyngor Hawliau Aflonyddu Rhywiol Merched yn y Gwaith. Ond fel mae pethau ar hyn o bryd, prin iawn yw’r amddiffyniadau.
“Crëodd Deddf Diogelu Gweithwyr 2023 “ddyletswydd ataliol” i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
“Ond dim ond ar ôl i unigolyn gyflwyno achos o aflonyddu rhywiol yn llwyddiannus y bydd ymchwiliad awtomatig i dorri’r ddyletswydd hon yn digwydd. Ac mae llawer o fathau eraill o drais ar sail rhywedd yn y gweithle wedi'u heithrio.
“Yn y cyfamser, mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 eisoes yn gosod dyletswydd ar gyflogwyr i sicrhau iechyd, diogelwch a lles gweithwyr yn y gwaith.
“Felly beth am ddefnyddio’r mecanwaith caletaf sydd gennym yn y gweithle i fynd i’r afael ag aflonyddu a thrais ar sail rhywedd yn y gweithle hefyd?
“Dyna’n union y mae’r Mesur Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 (Diwygiiad), a ddatblygwyd gyda’r Ymddiriedolaeth wych Suzy Lamplugh a Hawliau Menywod, yn ceisio ei wneud.”
Daeth Ms Saville Roberts i glo drwy ddweud:
“Os mai dyma’r gwahaniaethau rydyn ni am eu gwneud i fywydau menywod yn y gweithle, gadewch inni ddefnyddio’r holl bwerau sydd gennym ni a gwneud iddyn nhw weithio i fenywod yn fwy effeithiol nag ydyn nhw ar hyn o bryd.”