Plaid Cymru yn annog llywodraethau i weithredu ar frys mewn ymateb i adroddiad yr IPCC

Mae Plaid Cymru wedi ymateb i adroddiad “damniol” y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) ar gyflwr yr argyfwng hinsawdd. 

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan a’u llefarydd ar Gynhadledd Newid Hinsawdd y CU (COP26), Liz Saville Roberts AS fod yr adroddiad yn “gondemniad damniol nad anhwylustod yw newid hinsawdd, ond perygl dirfodol i ni oll” a galwodd am “ddim mwy o oedi, dim mwy o ragrith, a dim mwy o gemau gwleidyddol” gan Lywodraeth y DG.

Yn y cyfamser galwodd llefarydd y Blaid ar Newid yn yr Hinsawdd, Delyth Jewell AS ar Lywodraeth Cymru i “Wahardd ffracio. Cynyddu buddsoddiad mewn ôl-ffitio tai. Dadfuddsoddi mewn tanwydd ffosil. Cyflwyno Deddf Aer Glân.” Galwodd hefyd ar Lywodraeth y DU i roi'r pwerau cyllidol llawn i Gymru sy'n angenrheidiol i chwarae rhan lawn wrth fynd i'r afael â'r argyfwng.

Mae adroddiad yr IPCC yn rhybuddio bod bodau dynol yn cael effaith “ddigamsyniol” ar yr hinsawdd, bod newid yn yr hinsawdd yn “eang, yn sydyn, ac yn dwysáu”, a bod llawer o’r newidiadau a welwyd yn yr hinsawdd yn “ddigynsail ers miloedd, os nad cannoedd o filoedd o flynyddoedd”.

Mae’r adroddiad yn rhoi amcangyfrifon newydd o’r siawns y bydd y byd yn croesi’r lefel o gynhesu byd-eang o 1.5°C yn y degawdau nesaf, ac yn canfod, oni cheir gostyngiadau sydyn ac ar raddfa fawr o allyriadau nwyon tŷ gwydr, ni fydd modd cyfyngu cynhesu i fod yn agos at 1.5°C neu hyd yn oed 2°C.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan a’u llefarydd ar uwch-gynhadledd hinsawdd COP26, Liz Saville Roberts AS:

“Mae’r adroddiad heddiw gan yr IPCC yn gondemniad damniol nad anhwylustod yw newid hinsawdd ond perygl dirfodol i ni oll. Y caswir yw ein bod ni, y genhedlaeth hon a’r cenedlaethau a fu, wedi bod yn ddigon parod i greu’r amodau am ddinistr amgylcheddol ac ecoladdiad digynsail, ac yn wir, y potensial o golli bywyd dynol ar raddfa eang.

“Disgrifiodd ysgrifennydd Cyffredinol y CU adroddiad heddiw fel “cod coch i ddynoliaeth”. Ni fydd yr un rhan o’r byd hwn yn cael ei adael heb ei gyffwrdd, effeithir ar bob cenedl, ac ni fydd yr un bywyd yn dianc yn ddianaf.

“Rhaid i Lywodraeth y DG weithredu cyn iddi fod yn rhy hwyr. Dim mwy o oedi, dim mwy o ragrith, a dim mwy o gemau gwleidyddol  ynghylch y camau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r her hon. Rhaid i COP26 lwyddo ac yr wyf yn erfyn ar y Llywodraeth i roi i Lywydd COP26 yr holl fecanweithiau diplomataidd sydd gan y DG i weithredu’n fyd-eang.”

Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru ar Newid Hinsawdd Delyth Jewell AS:

“Ni ddylai llywodraethau ohirio gweithredu brys a radical tan flynyddoedd lawr y lein. Mae angen gweithredu a hynny ar frys.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae: mae pob gweithred ar bob lefel yn bwysig yn ein brwydr ar y cyd dros ein dyfodol. Nid wyf am i bobl ifanc sy'n darllen y newyddion heddiw deimlo fel na allwn newid pethau - oherwydd gallwn. Ac mae'n rhaid i ni.

“Gwahardd ffracio. Cynyddu buddsoddiad mewn ôl-ffitio tai. Dadfuddsoddi mewn tanwydd ffosil. Cyflwyno Deddf Aer Glân. Mae'r rhain i gyd yn bethau y gall Llywodraeth bresennol Cymru eu gwneud i sicrhau bod Cymru yn chwarae ei rhan yn y frwydr fyd-eang yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

“Rydyn ni wedi datgan argyfwng hinsawdd ac natur i ysgogi gweithredu, rydyn ni'n barod i helpu'r rhai sy'n cael eu heffeithio fel cenedl noddfa ac mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i genedlaethau'r dyfodol a datblygu cynaliadwy. I Lywodraeth San Steffan, dywedaf hyn: Rhowch y grymoedd cyllidol i Gymru gamu i'r her hon a gwneud ein rhan yn ymdrech ar y cyd y DU i sicrhau newid. Nid twyll cyfansoddiadol na gwleidyddol mo hwn. Dyma ein cyfle olaf - gadewch i ni wneud y dewisiadau cywir ac anodd nawr, gadewch i ni fod yn radical - cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Dyna ein hunig ddewis.”