Bu’r Prif Weinidog gerbron Pwyllgor Sgrwtini’r Senedd yn rhannu mwy am ei hymateb i Ddatganiad Gwanwyn y Canghellor

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o beidio â chael unrhyw ddylanwad ar Rif Deg Stryd Downing wedi sesiwn danbaid o Bwyllgor Craffu’r Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Gwener, Mawrth 28ain

Yn ystod y sesiwn, datgelodd y Prif Weinidog na allai gofio enw’r unigolyn yr oedd wedi siarad â nhw wrth drafod toriadau Llafur y DU i wariant lles, gan gadarnhau na chafodd gyfle i drafod yn uniongyrchol â Phrif Weinidog y DU.

Dywedodd y Prif Weinidog hefyd ei bod yn ‘cadw’i dyfarniad yn ôl’ ar y newidiadau i wariant lles, er i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens honni ei bod wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gefnogi’r toriadau.

Roedd y Prif Weinidog yn dymuno ‘cadw’i barn yn ôl’ nes bod asesiad o’r effaith ar Gymru wedi’i gynnal. Mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â Llywodraeth y DU gyda’r cais hwn dros wythnos yn ôl, a hyd yma nid ydyn nhw wedi derbyn unrhyw ateb.

Mewn ymateb i’r sesiwn, dywedodd AS Plaid Cymru ac aelod o’r pwyllgor, Llŷr Gruffydd:

“Roedd rhai o sylwadau’r Prif Weinidog yn y pwyllgor y bore yma’n gwbl anghredadwy. Dywedodd ei bod yn ‘cadw’i barn yn ôl’ cyn cymryd safiad ar newidiadau lles Llafur, ond dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod y Prif Weinidog eisoes wedi cefnogi’r toriadau.

"Fe aeth ymlaen i gyfaddef nad oedd y sgyrsiau a gafodd gyda 'rhif deg' gyda'r Prif Weinidog ei hun, nac unrhyw weinidogion eraill chwaith. Os mai dim ond swyddog y mae ei dylanwad yn San Steffan yn ei gyrraedd, mae'n amlwg nad yw’n mynd ymhellach iawn."

"Mae'n glir o'r sesiwn heddiw nad oes gan y Prif Weinidog unrhyw ddylanwad uniongyrchol – nid yw’r 'bartneriaeth mewn grym' fel a’i elwir yn cyflawni dim i Gymru, ac fe amlygodd y ffaith nad yw'r Llywodraeth Lafur Cymru yma’n cael unrhyw ddylanwad ar yrru datganoli’n ei flaen.

“Bydd hi bob amser yn fater o ‘blaid cyn gwlad’ i Lafur a'r Prif Weinidog. Mae'n amser am ddechrau o'r newydd - byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sefyll i fyny dros Gymru’n ddi-wyro bob amser."