Mae AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams, heddiw wedi galw ar Lywodraeth y DG i newid y gofyniad dan y Cynllun Kickstart newydd i fusnesau bychain ddarganfod canolwyr er mwyn bod yn gymwys.

Mae’r Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i gyflogwyr greu lleoliadau gwaith i bobl ifanc 16 i 24 oed. Dan y gofynion presennol, rhaid i geisiadau i gynllun yr Adran Gwaith a Phensiynau fod am isafswm o 30 lleoliad gwaith. Mae gofyn i fusnesau llai bartneru gyda sefydliadau eraill er mwyn cyrraedd yr isafswm.

Tynnodd Mr Williams sylw at y ffaith mai busnesau sy’n cyflogi llai na 9 o bobl yw 95% o’r holl fusnesau yng Nghymru ac na allant felly gyrchu’r cynllun yn uniongyrchol.

Meddai Hywel Williams AS:

“Busnesau bychain sy’n cyflogi llai na 9 o bobl yw 95% o holl fusnesau Cymru a hwy yw asgwrn cefn ein heconomi. Wedi dioddef yn anghymesur yn ystod y pandemig, byddant ar eu colled eto fyth tra bod y Torïaid yn rhoi help llaw i’w cyfeillion mewn busnesau mawr.

“Os yw Llywodraeth y DG o ddifrif am ail-gychwyn yr economi, rhaid iddynt roi cefnogaeth uniongyrchol i’r busnesau bychain entrepreneuraidd sy’n cynnal ein cymunedau.

“Anogaf Lywodraeth y DG i ddileu’r gofyniad ar i fusnesau bychain dywallt eu hadnoddau prin i geisiadau cymhleth ar y cyd, ac i ganiatáu i bob cyflogwr gael cyswllt uniongyrchol â’r AGPh ar gyfer y cynllun hwn.”

Mae diffygion Cynllun Kickstart eisoes wedi eu hamlygu gan un busnes yn Arfon, gyda Richard Huws o Winllan Pant Du ym Mhenygroes yn dweud:

“Fel busnes bach, roedd gennym ddiddordeb mawr ym mhosibilrwydd cyflogi person  ifanc lleol trwy’r cynllun hwn. Ond daeth yn amlwg yn sydyn iawn fod y cynllun hwn ar gyfer busnesau fel Amazon a Tesco, nid busnesau bychain fel ni.

Mae Llywodraeth y DG wedi dangos cymhelliant o flaen ein trwynau ac wedyn wedi ei gipio ymaith. Buaswn yn eu hannog i ail-ystyried a gofalu fod y cynllun yn dweud beth ddywed yr enw, trwy roi cyfle i bob busnes gychwyn  o’r newydd.”