Heddiw (dydd Sul 8 Ionawr) mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi ymosod yn chwyrn ar benderfyniad Llywodraeth Llafur Cymru i wrthod cymryd rhan mewn trafodaethau cyflog gydag undebau iechyd.

Mae Mr Price yn honni, trwy wrthod trafod gydag undebau iechyd, fod y Blaid Lafur yn “troi ei chefn ar 100 mlynedd o’i hanes ei hun”.

Yn gynharach yr wythnos hon, beirniadodd arweinydd Llafur Keir Starmer y Ceidwadwyr am wrthod cyfarfod â’r undebau i drafod tâl y GIG, gan ddweud “Rhaid i chi fynd i’r ystafell, mae’n rhaid ichi edrych ar y materion a chyfaddawdu ar y ddwy ochr.”

Fodd bynnag, mae’r RCN wedi beirniadu’r Llywodraeth Lafur dro ar ôl tro am fabwysiadu’r un dull yng Nghymru. Maen nhw’n dweud eu bod yn “rhwystredig ac yn grac am y diffyg ymgysylltu gan Lywodraeth Cymru i agor trafodaethau ar ddyfarniad cyflog teg i staff nyrsio”.

Ddydd Gwener (6 Ionawr), cyhuddodd yr RCN Lywodraeth Cymru o ddefnyddio San Steffan fel bwch dihangol yn yr anghydfod cyflog ac anogodd Weinidogion Llafur i “ddatrys yr anghydfod hwn”.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham, ar ôl i streiciau pellach gan weithwyr ambiwlans Cymru gael eu cyhoeddi ddydd Gwener, er fod gwreiddiau’r anghydfod yn San Steffan, ond bod angen i lywodraeth Cymru symud i wella ei chynnig cyflog er mwyn osgoi anghydfod hirfaith.

Dywedodd Adam Price:

“Mae'n iawn fod Llafur yn mynd ar ol anghymhwysedd y Torïaid, ond y peth yw, mae nhw hefyd yn camreoli y GIG yng Nghymru.

“Mae Llafur, o dan Keir Starmer wedi bod yn gyflym i feirniadu llywodraeth Sunak. “Fe wnaethon nhw chwalu’r gwasanaeth iechyd” meddai Keir Starmer, gan ychwanegu “mae’n bryd cael llywodraeth Lafur.”

“Ond mewn sawl ffordd, maen nhw'n gwneud yr un fath fan hyn. Staff heb gyflog teg, heb ddigon o adnoddau ac yn cael eu gorweithio hyd syrffed. Mae'r stori yng Nghymru mor gyfarwydd ag y mae yn Lloegr.

“Ond mae un gwahaniaeth pwysig: nid y Torïaid sy’n rhedeg y GIG yng Nghymru, ond Llafur. Ac felly y bu ers 25 mlynedd.”

Ychwanegodd:

“Mae dirywiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, lle mae un o bob pump o bobl ar restr aros ysbyty, wedi digwydd o dan wyliadwriaeth Llafur Cymru.

“Nid dim ond y tanariannu – y mae pob llwybr yn anochel yn ei arwain yn ôl i San Steffan – ond hefyd y diffyg buddsoddiad llwyr mewn gofal cymdeithasol, a diffyg ymgysylltu ag anghydfodau gweithwyr.

“Er gwaethaf yr holl alwadau cyfiawn ar Lywodraeth Dorïaidd y DU i gyfarfod ag arweinwyr Undebau Iechyd, mae Llywodraeth Lafur Cymru hefyd wedi osgoi trafodaethau ystyrlon i ddatrys yr anghydfod cyflog.

“Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud yr hyn y mae llywodraeth yr Alban yn ei wneud o dan arweiniad yr SNP. Mae Llywodraeth yr Alban wedi llwyddo i ddod o hyd i arian ar gyfer cynnig cyflog gwell sydd wedi arwain at ddau o’r undebau iechyd yn gohirio streic. Dyna arweinyddiaeth go iawn, ac nid oes unrhyw reswm pam na all llywodraeth Cymru ddefnyddio’r pwerau sydd ganddi i wneud yr un peth.

“Mae’n rhwystredig iawn gweld ymateb llywodraeth Lafur Cymru – maen nhw’n barod i herio’r Torïaid, ond eto maen nhw’n gwneud yn union yr un peth yma yng Nghymru. Dro ar ôl tro mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i edrych ar yr holl rymoedd sydd ar gael iddynt - trethiant, cronfeydd wrth gefn, ailddyrannu i flaenoriaethu cyflog teg yn y GIG a gofal cymdeithasol.

“Mae’r blaid Lafur yn troi ei chefn ar 100 mlynedd o’i hanes ei hun. Fe'i sefydlwyd i fod yn llais i weithwyr ac yn llais i'r undebau llafur. Ac eto nid yw’n barod i wrando ar yr hyn y mae’r undebau llafur a gweithwyr yn ei ddweud wrthynt yn y sector iechyd ac mewn sectorau eraill.”