Llafur wedi rhoi'r gorau ar geisio ymddangos fel plaid sy'n poeni am Gymru, meddai Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llafur o beidio ag ymladd dros fuddiannau Cymru ar ôl i Lafur ddileu cynnig Plaid Cymru sy’n galw ar Lywodraeth Lafur y DU i gynnwys amrywiaeth o anghenion Cymru yn Gyllideb y Canghellor.
Heddiw (dydd Gwener 14/11/2025) cyflwynodd Llafur eu gwelliant i gynnig Plaid Cymru. Galwodd y gwelliant ar y Senedd i ddileu'r holl alwadau ar gyfer y Gyllideb, gan gynnwys polisïau sy'n bolisïau Llywodraeth Cymru a Llafur Cymru.
Roedd y galwadau, a ddilewyd gan Lafur, yn cynnwys datblygu cynllun i sicrhau fformiwla ariannu newydd i Gymru, i Gymru dderbyn y cyllid canlyniadol llawn sy'n ddyledus o HS2, ac i ddatganoli'r pwerau dros Ystâd y Goron.
Wrth ymateb i'r gwelliannau, mae Plaid Cymru wedi ymosod ar Lafur, gan gyhuddo'r ddwy Lywodraeth Lafur o gefnu ar bobl Cymru.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyllid, Heledd Fychan AS:
"Unwaith eto, rydyn ni'n gweld y Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru yn rholio drosodd ac yn rhoi'r gorau ar geisio ymddangos fel plaid sy’n poeni am - heb sôn am sefyll i fyny dros - anghenion cymunedau Cymru a'r hyn mae pobl Cymru yn ei haeddu.
"Mae galwadau Plaid Cymru yn mynnu bod Cyllideb Rachel Reeves yn cynnwys y pethau y mae Cymru yn eu haeddu, o leiaf. Bydd penderfyniad Llafur i ddileu’r gofynion o'n cynnig yn cael ei wynebu â chywilydd a dirmyg, ac rwy'n eu hannog i ailystyried cyn i'r ddadl a'r bleidlais gael ei chynnal yr wythnos nesaf.
"Mae'r galwadau mae Llafur yn eu dileu o'r cynnig yn alwadau roedden nhw'n arfer cytuno â ni arnynt, galwadau roedden nhw'n hapus defnyddio pan oedd y Torïaid mewn grym. Yn hytrach na ‘cyflawni’ dros bobl Cymru, mae pobl Cymru yn cael eu gadael i lawr gan Lafur yng Nghaerdydd a San Steffan.
"Mae'n amlwg mai Plaid Cymru yw'r unig blaid fydd yn sefyll i fyny dros Gymru ac yn brwydro dros yr hyn mae ein cymunedau yn ei haeddu. Rydym yn barod i arwain y llywodraeth nesaf yma yng Nghymru, drwy gynnig arweinyddiaeth newydd a chynlluniau credadwy i wella gwasanaethau cyhoeddus."