Mae Cynghorydd Llafur amlwg yn Sir Ddinbych wedi gadael y blaid Lafur ac wedi  ymuno â Plaid Cymru.

Ymunodd y Cynghorydd Paul Penlington, sydd wedi cynrychioli ward Gogledd Prestatyn ar Gyngor Sir Dinbych ers 2012, â Phlaid Cymru yr wythnos hon gan ddweud ei fod yn credu bod y blaid yn cynrychioli buddion ei drigolion orau a bod gan y Blaid y syniadau gorau ar gyfer y Sir a Chymru.

Cyhuddodd y blaid Lafur o adael pobl lawr ar lefel leol – gan gael caniatâd i wneud hynny gan y blaid yn genedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Penlington, “Mae Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Dinbych wedi creu argraff arnaf ers cryn amser. Mae'r grŵp yn gyson wedi cyflwyno syniadau ffres, ac wedi herio'r drefn sefydledig. Gwelais fy hunan yn cefnogi eu gwaith fwyfwy, ac roeddwn eisiau bod yn rhan o'u prosiect - sef i wella bywydau pobl yn Sir Ddinbych.

“Mae arweinyddiaeth Adam Price AS wedi creu argraff arnaf yn ystod argyfwng y Coronafirws. Mae ei graffu fforensig ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y ddwy Lywodraeth wedi helpu i sicrhau gwell polisïau i fynd i'r afael â'r argyfwng yma yng Nghymru. Mae’n amlwg i mi mai Plaid Cymru yw’r blaid sy’n rhoi lles a buddiannau’r bobl rwy’n eu cynrychioli yn Prestatyn yn gyntaf.”

“Ni allaf mewn unrhyw gydwybod fod yn rhan o blaid sy’n methu pobl mor wael ar lefel leol gyda’r blaid genedlaethol yn caniatáu iddi wneud hynny.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Penlington, “Mae yna rai unigolion rhagorol o fewn Grŵp Llafur ar Gyngor Sir Dinbych, a byddaf yn parhau i weithio gyda nhw i wthio agenda flaengar ymlaen a sicrhau bod pobl Prestatyn a Sir Ddinbych yn derbyn y gwasanaethau gorau posibl.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Dinbych, Rwyf wedi cael y pleser o weithion agos gyda Paul ar lawer o faterion ar y Cyngor, ac roeddem wastad yn cytuno ar yr un ffordd ymlaen yn y Cyngor. Daw Paul â syniadau ac angerdd gydag ef yn ei rôl. Mae wedi ei wreiddio yn gadarn yn ei gymuned ac mae'n gynrychiolydd rhagorol i'w drigolion. Bydd yn ased i Grŵp Plaid Cymru.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS: “Mae Paul wedi dod o hyd i’w gartref gwleidyddol gyda Plaid Cymru, a bydd croeso cynnes iddo yn y Blaid fel pencampwr o Brestatyn a Sir Ddinbych. Mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Dinbych wedi dangos eu bod yn grŵp effeithiol, ac mae pobl yn cydnabod y gwaith caled maen nhw'n ei wneud er budd pobl Sir Ddinbych. Mae neges Plaid Cymru yn cyrraedd cartrefi ledled Cymru gyfan, ac mae aelodau newydd yn ymuno â ni ym mhob cymuned, achos eu bod yn cydnabod bod gennym weledigaeth gadarnhaol dros eu cymuned ac thros Gymru. ”