Mae’n amlwg nawr nad oes gan Lafur gynllun ar gyfer Dur Cymru
Mae Plaid Cymru wedi ymateb i sylwadau a wnaed gan yr ysgrifennydd busnes newydd Jonathan Reynolds AS ynghylch trafodaethau gyda TATA Steel er mwyn arbed swyddi a'r gallu i wneud dur ym Mhort Talbot.
Dywedodd yr ysgrifennydd Llafur newydd wrth BBC Radio Wales Breakfast fod TATA wedi bod yn ‘ansymudol’ ar y penderfyniad i ohirio cau ail ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot, sydd i fod i gau ym mis Medi.
Ymatebodd Plaid Cymru gan ddweud ei bod yn amlwg bod addewidion Llafur cyn yr etholiad o gynllun i arbed swyddi ac i gadw’r gwaith dur i fynd ym Mhort Talbot yn ffug. Cafodd cwestiwn brys ei gyflwyno gan y blaid yn y Senedd, yn ceisio eglurhad gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Dywedodd llefarydd Plaid ar yr Economi ac Ynni, Luke Fletcher AS:
“Cyn yr etholiad, roedd Llafur yn dweud wrth TATA i aros nes bod llywodraeth Lafur newydd yn cael ei hethol yn San Steffan. Nawr bod hyn wedi digwydd, nid oes fawr o newid i'w weld ac eithrio lliw y teiau rownd y ford. Nid ydym yn ddoethach eto beth yw'r cynllun.
“Mae’r Ysgrifennydd Busnes newydd yn dweud bod TATA yn ‘ansymudol’ ar ohirio cau ffwrnais chwyth arall er mwyn sicrhau trawsnewidiad cyfiawn. Mae angen i ni wybod beth mae Llafur yn ei gynnig na allai’r Torïaid. Gwyddom eu bod wedi dweud bod mwy o arian ar y bwrdd, ond gwyddom nad yw hyn yn ddigon.
“Mae TATA wedi bod yn dweud ers misoedd nad oedden nhw’n fodlon ail-negodi – fe welsom ni yn eu cyfweliadau, yn eu tystiolaeth nhw i bwyllgor Economi'r Senedd, felly beth mae Llafur wedi bod yn ei wneud i baratoi’r sefyllfa yma?
“Nawr os yw’r ddwy Lywodraeth Lafur wedi ymrwymo i gadw’r ffwrnais chwyth ar agor ac os na ellir symud TATA ar hyn dim ond un opsiwn sydd. Rhaid iddyn nhw ystyried gwladoli’r gwaith dur.”