Does gan Lywodraeth Lafur Cymru "ddim cynllun i ddilyn y Punnoedd", meddai arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wrth iddo herio'r Prif Weinidog ynghylch a oedd hi'n cael "gwerth ei arian" ar wariant iechyd.

Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth, 18 Chwefror 2025), heriodd Mr ap Iorwerth y Prif Weinidog Llafur dros y £1.5bn a wariwyd ar ostwng rhestrau aros y gwasanaeth iechyd ers 2021 er bod rhestrau aros yn bwrw’r lefel uchaf erioed pob mis ers mis Mawrth 2024.

Ar hyn o bryd mae 802,268 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth yng Nghymru, sy'n cynnwys tua 619,100 o gleifion unigol.

Ymatebodd y Prif Weinidog drwy ddweud "nid ydym yn gweld y math o ganlyniadau yr ydym yn credu y dylem fod yn eu gweld o'r buddsoddiad sydd wedi mynd i mewn."

Ers hynny mae arweinydd Plaid Cymru wedi ymateb yn beirniadu methiant Llafur i gyflawni eu haddewid i fynd i'r afael â rhestrau aros cynyddol y gwasanaeth iechyd.

Wrth feirniadu methiant Llafur i gyflawni eu haddewid i fynd i'r afael â rhestrau aros cynyddol y gwasanaeth iechyd, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

“Addawodd y Prif Weinidog Llafur flaenoriaethu mynd i'r afael â rhestrau aros y gwasanaeth iechyd sydd are u huchaf erioed. Chwe mis yn ddiweddarach, mae'r Prif Weinidog wedi cyfaddef nad yw'r buddsoddiad wedi sicrhau gwell canlyniadau i gleifion.

"Er gwaethaf y cyfaddefiad hwn, does dim newid agwedd gan y llywodraeth na ffocws ar fesurau iechyd ataliol – does ddim cynllun i ddilyn y punnoedd.

“Ar ôl gwario £1.5bn ers etholiad Senedd 2021 ar fynd i'r afael â rhestrau aros y gwasanaeth iechyd, ni ddylai fod 1 mewn pob 5 o bobl yn aros am gyfeiriad am driniaeth.

"Dim ond Plaid Cymru sy'n cynnig dechrau newydd i'r gwasanaeth iechyd, gyda chynllun clir i fynd i'r afael â rhestrau aros a chynigion i newid sut mae ein gwasanaeth iechyd yn cael ei redeg er mwyn sicrhau ei ddyfodol."