Mae Plaid Cymru yn galw ar Vaughan Gething i ymddiswyddo ar unwaith

Yn dilyn ymddiswyddiad pedwar o weinidogion Llafur, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae Vaughan Gething wedi arwain llywodraeth o anhrefn a rhoi ei hunan-les ei hun o flaen buddiannau pobl Cymru.

Ers misoedd, mae diffig crebwyll y Prif Weinidog, ei amharodrwydd i gael ei graffu a’i ddull ‘gwneud dim’ o lywodraethu wedi tanseilio swydd y Prif Weinidog ac wedi dwyn anfri ar wleidyddiaeth Cymru.

Anaml y mae penaethiaid llywodraeth mewn democratiaeth yn diystyru ewyllys ei deddfwrfa trwy barhau er gwaethaf colli pleidlais o hyder.

Mae’r blaid Lafur wedi rhoi’r gorau i Vaughan Gething ac mae Keir Starmer wedi ymddwyn fel ei gefnogwr pennaf. Mae’r Gweinidogion a ymddiswyddodd heddiw yr un mor euog, dylent fod wedi gweithredu’n llawer cynt na’u hymyriad unfed awr ar ddeg pan oedd hi’n achos o un pennawd gwael yn ormod.

Mae pobl Cymru yn colli ffydd yng ngallu Llafur i lywodraethu Cymru. Yn ei hagwedd o ‘ein ffordd ni neu ddim ffordd o gwbl’ ac yn ei record o gyflawni sy’n cael ei ganfod fwyfwy yn ddiffygiol – mae Llafur wedi rhedeg allan o syniadau ac yn methu a dangos ffordd ymlaen i’r cyhoedd.