Mae’n “hurt” i weld cwmnïau’n “gwneud elw o ganlyniad i gamreolaeth Llafur” – Rhun ap Iorwerth AS

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o “fethu â chael gafael” ar wariant ar staff asiantaeth breifat yn y Gwasanaeth Iechyd sydd bellach “tu hwnt i reolaeth”.

Yn ôl ffigyrau newydd sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, roedd y gwariant ar staff asiantaeth y Gwasanaeth Iechyd dros £320 miliwn ar gyfer 2022. Mae hyn £70 miliwn yn fwy na’r y ffigwr gafodd ei crybwyll ar gyfer 2021.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, ei bod yn “hurt”  gweld “cwmnïau preifat yn gwneud elw dros o ganlyniad i gamreolaeth Llafur o’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.”

Aeth Mr ap Iorwerth ymlaen i ddweud:

“Mae’r gwariant ar staff asiantaeth breifat tu hwnt i reolaeth. Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae’r ffigwr hwn yn gwaethygu, gan brofi bod Llywodraeth Cymru o dan Lafur wedi methu’n llwyr â chael gafael ar y gwariant hwn, er gwaethaf sicrwydd dro ar ôl tro y bydd y mater yn cael sylw.

“Fe ddywedon ni hyn ym mis Ionawr pan glywson ni fod gwariant y llynedd yn £260m - nawr ry’n ni’n deall bod y ffigwr go iawn dros £320m. Mae’n hurt i feddwl, mewn cyfnod pan mae Llywodraeth Cymru’n dweud nad oes ganddyn nhw arian i wneud cynnig cyflog gwell i weithwyr trawiadol, bod cymaint o arian yn mynd i gwmnïau preifat.

“Mae’r sefyllfa’n arbennig o hurt pan mae staff yn gadael cyflogaeth y Gwasanaeth Iechyd er mwyn cael hyblygrwydd a mwy o reolaeth dros ei hunain, fel sy’n cael ei gynnig gan waith asiantaeth - ac yn aml yn dod yn ôl i weithio yn yr un lle maen nhw newydd adael, dim ond ar gost fwy i’r Gwasanaeth Iechyd.

“Rydyn ni wedi cyrraedd y lle yma oherwydd blynyddoedd o gamreolaeth gan y Blaid Lafur. Mae’n rhaid iddyn nhw nawr gymryd y cyfrifoldeb ac arwain Gwasanaeth Iechyd Cymru i ffwrdd o’r gorddibyniaeth ar asiantaethau preifat, boed hynny drwy greu asiantaeth gyhoeddus, neu dim ond adeiladu yn yr hyblygrwydd sydd ei angen ar staff y Gwasanaeth Iechyd i gontractau presennol. Yn wir, mae angen y ddau! Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos eu bod o ddifrif am fynd i’r afael â’r costau cynyddol hyn.”