Wrth ymateb i gynllun Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag ail gartrefi a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth 6 Gorffennaf 2021), meddai Llefarydd Tai Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor AS,

“Mae’r “dull uchelgeisiol” bondigrybwyll hwn o fynd i’r afael ag argyfwng tai ail gartref yn ymarfer o gicio’r broblem i lawr y lon heb gymryd y camau brys angenrheidiol i ddelio â’r argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau.

“Ni fydd y mesurau gwan hyn yn ddigon i fynd i’r afael ag argyfwng tai sy’n prysur ymgolli yn ein cymunedau ar raddfa frawychus. Nid oes unrhyw beth yma ynglŷn am gau’r bwlch cyfreithiol parthed y dreth gyngor. Nid oes unrhyw beth yma am osod capiau ar ail gartrefi. Ac nid oes unrhyw beth yma am ddod â niferoedd cartrefi gwyliau i berchnogaeth gymunedol trwy ymyrraeth gyhoeddus - gan ddargyfeirio elw i ddatblygiadau lleol fel darparu tai cymdeithasol. Mewn gwirionedd, nid oes unrhyw fanylion dim ond cynlluniau annelwig ar gyfer mwy o ymgynghori.

“Yr hyn sydd ei angen ar ein cymunedau yw gweithredu ar frys cyn ei bod hi’n rhy hwyr - nid ymgynghoriadau poenus na threialon canol y ffordd.

“Mae Plaid Cymru yn mynnu ymyriadau uniongyrchol i liniaru’r argyfwng tai, megis newidiadau i gyfreithiau cynllunio i ganiatáu i gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi, treblu’r dreth Trafodiad Tir ar brynu Ail Gartrefi a chau’r bwlch sy’n caniatáu i berchnogion ail gartrefi gofrestru eu heiddo fel “busnesau” er mwyn osgoi talu premiwm treth y cyngor, drwy ddiwygio cyfraith Deddf Llywodraeth Leol i rymuso awdurdodau lleol i reoli'r stoc dai yn well.

“Nid yw’r argyfwng tai sy’n wynebu Cymru wedi’i gyfyngu i ychydig o gymunedau pell i ffwrdd. Mae'n cael sgil-effaith ym mhob cymuned ar hyd a lled ein cenedl. Mae'n ddyled ar y Llywodraeth Lafur i'r bobl yn y cymunedau hyn fynd i'r afael â'r argyfwng gyda'r difrifoldeb a'r brys y mae'n ei haeddu - gan sicrhau eu bod yn gallu byw a gweithio yn yr ardal maen nhw'n ei galw'n gartref.