Mae Plaid Cymru wedi lansio cynllun cefnogwyr newydd ‘Cyfeillion Plaid’ i alluogi pobl i gefnogi’r Blaid am ddim ond £5 y flwyddyn.

Wrth lansio’r cynllun ar stondin y Blaid ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, y byddai’r cynllun yn rhoi’r cyfle i bobl sy’n chwilfrydig am y mudiad i’w cefnogi gyda’r gobaith y byddant yn dod yn aelodau llawn maes o law.

 

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price:

 

“Mae dros dau gant ac ugain mil o bobl yn pleidleisio dros y Blaid mewn etholiadau ond dyw’r mwyafrif ddim yn aelodau o’r mudiad - bwriad cynllun ‘Cyfeillion Plaid’ yw dechrau newid hynny.

 

“Cryfder ein plaid yw ei phobl a gyda phob aelod neu gefnogwr newydd, mae ein gallu i weithio’n glyfrach dros ein mudiad a dros ein gwlad yn tyfu.

 

“Rydym eisiau denu’r bobl hynny sy’n chwilfrydig am y Blaid ac yn pleidleisio iddi mewn unrhyw etholiad a rhoi’r profiad iddynt o fod yn rhan o fudiad sy’n arddel polisiau blaengar a gweledigaeth gyffrous dros Gymru.”

 

Ychwanegodd Dafydd Iwan, cyn-Lywydd y Blaid oedd yn arwain lansiad y cynllun yn yr Eisteddfod:

 

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous dros ben i Blaid Cymru. Mae’r mudiad annibyniaeth yn mynd o nerth i nerth ac mae mwy o bobl nag erioed yn chwilfrydig am y syniad o’n cenedl yn sefyll ar ei thraed ei hyn.

 

“Gwn fod miloedd o bobl nad sy’n aelodau o’r Blaid yn rhannu ein gweledigaeth o Gymru decach, werddach a mwy llewyrchus, ac rwy’n gobeithio y bydd cynllun Cyfeillion Plaid yn agor y drws iddynt ddod yn rhan llawnach o’n mudiad.

 

“Byddwn yn annog pawb sydd unai wedi uniaiethu gyda pholisiau a gweledigaeth y Blaid neu wedi pleidleisio drosti ar unrhyw bwynt i fanteisio ar y cyfle hwn i wneud gwahaniaeth a newid Cymru er gwell.”