Mae cynnig  gan Blaid Cymru am herio Llafur Cymru i weld os yw eu teyrngarwch yn gorwedd gyda'u plaid neu gyda phobl Cymru yn dilyn llythyr gan aelodau meinciau cefn Llafur yn beirniadu Prif Weinidog y DU am danseilio datganoli.

Daw hyn ar ôl llythyr at Keir Starmer gan un ar ddeg o aelodau feinciau cefn Llafur yn y Senedd, sydd yn beirniadu Prif Weinidog y DU am danseilio’r setliad datganoli presennol, penderfyniad mae’r llythyr yn disgrifio yn 'hynod ansensitif' ac yn ‘sarhad cyfansoddiadol'.

Rhaglen ddadleuol sydd wedi sbarduno'r ddadl bresennol yw Balchder Bro. Mae'r rhaglen hon yn caniatáu Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn meysydd polisi datganoledig drwy’r ddeddf ddadleuol, y Ddeddf Marchnad Fewnol y DU, ac felly'n tanseilio mandad democrataidd y Senedd a Llywodraeth Cymru.

Mae Plaid Cymru yn esbonio, os nad yw Llafur yn cefnogi'r cynnig, byddan nhw'n profi unwaith ac am byth eu bod yn blaenoriaethu Keir Starmer ac undod o fewn eu plaid o flaen anghenion pobl Cymru, gan ddangos eu bod wedi rhoi'r gorau ar Gymru.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

"Pan fydd ASau Llafur eu hunain yn rhybuddio bod gweinidogion Llundain yn gwneud penderfyniadau dros bennau Cymru, mae'n amlwg bod rhywbeth wedi mynd o'i le.

"Mae'n hen bryd i Lafur yng Nghymru benderfynu beth sydd bwysicach iddyn nhw - amddiffyn Keir Starmer i fodloni eu plaid eu hunain, neu Gymru.

"Dros 26 mlynedd o lywodraeth Lafur yng Nghymru, mae gennym ni nawr Llywodraeth Lafur y DU sydd yn dal Cymru yn ôl, o’r biliynau coll o HS2, i Ystâd y Goron, i bwerau dros blismona a chyfiawnder.

"Mae hyn yn fater o sicrhau bod gan Gymru lais a bod penderfyniadau dros Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru, nid yn San Steffan.

"Mae Llafur yn amlwg wedi rhoi'r gorau i Gymru. Ar 7 Mai 2026, bydd pobl ledled Cymru yn cael cyfle i bleidleisio dros arweinyddiaeth newydd fydd yn sefyll i fyny dros Gymru gyda Phlaid Cymru."