Adroddiad gan bwyllgor o ASau yn arwain at alwadau eto am ddatganoli cronfeydd

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, heddiw (8 Mehefin 2022) wedi galw am ddatganoli cronfeydd rhanbarthol wedi i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus trawsbleidiol San Steffan fynegi pryder fod “penderfyniadau wedi eu cymryd heb ystyried yn ddigonol flaenoriaethau’r llywodraethau datganoledig”.

Cyflwynodd Ben Lake AS Fesur i’r Senedd ym mis Mawrth eleni yn galw am ddatganoli’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i Gymru ac am ganoli o’r newydd ar yr argyfwng costau byw. Heddiw, dywedodd Mr Lake fod adroddiad newydd y Pwyllgor yn gwneud yr achos clir, ar gyllid rhanbarthol, y dylai “penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru.”

Dywedodd y Pwyllgor nad oedd y Llywodraeth “eto wedi ei argyhoeddi”  y bydd ymgynghori gyda Llywodraethau Cymru a’r Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, yn effeithiol o ran sicrhau yr ystyrir blaenoriaethau’r gweinyddiaethau datganoledig yn ddigonol.”

Meddai Ben Lake AS:

“Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus heddiw yn gwneud yr achos yn glir, pan ddaw’n fater o gyllido rhanbarthol, y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Mae’n bwysicach nag erioed i ASau o bob ochr o’r Tŷ gefnogi fy mesur sy’n galw am ddatganoli cyllid ‘codi’r gwastad’ i Gymru.

“Addawodd y Blaid Geidwadol yn 2019 i roi yn lle cyllid rhanbarthol yr UE â rhaglen sy’n ‘decach ac wedi ei theilwrio’n well i’n heconomi’. Mae’r adroddiad hwn yn profi fod eu strategaeth yn fethiannus ac yn rhoi awdurdodau lleol yn y cenhedloedd datganoledig dan fwy fyth o anfantais.

“Mae Gweinidogion y DG yn creu’r meini prawf ar y pryd a heb hyd yn oed allu gwerthuso effeithiau grantiau a ddyfarnwyd. Nid fel hyn mae meithrin ffyniant economaidd.

“O’r cychwyn cyntaf, mae Plaid Cymru wedi galw am i gyllid gael ei neilltuo yn ôl angen, nid yn ôl buddiannau gwleidyddol San Steffan. Os yw Llywodraeth y DG eisiau unrhyw hygrededd ar ‘godi’r gwastad’, fe ddylent o leiaf heddiw edrych eto ar eu meini prawf fel bod Cymru yn cael ei chyllido’n ddigonol yn ôl ein hangen.”