73% o’r cyhoedd yn cefnogi Mesur Celwyddau Liz Saville Roberts

Bydd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, heddiw (Mawrth 28 Mehefin) yn cyflwyno Mesur seneddol i wahardd dweud celwydd mewn gwleidyddiaeth.

Mewn araith yn Nhŷ’r Cyffredin, bydd hi’n galw ar ASau i “amddiffyn democratiaeth, gwasanaethu’r cyhoedd, a diogelu’r safonau sylfaenol y dylem ni i gyd eu dilyn”, trwy gefnogi ei Mesur.

Byddai Mesur Plaid Cymru yn ei gwneud yn drosedd i wleidyddion ddweud celwydd wrth y cyhoedd yn fwriadol. Byddai’r gweithdrefnau a ddefnyddir eisoes i bennu a yw busnes neu gorfforaeth yn fwriadol wedi camarwain neu gam-werthu yn cael eu addasu ar gyfer pwrpas y Mesur. Byddai troseddau cyson yn arwain at gosb o ddirwy neu, yn y pen draw, waharddiad rhag sefyll etholiad am hyd at 10 mlynedd.

Datgela arolwg a gynhaliwyd gan Opinium i’r Felin Drafod Compassion in Politics fod y cyhoedd yn pryderu am y diffyg gonestrwydd yng ngwleidyddiaeth y DG, gyda 53% yn sôn am anonestrwydd gwleidyddion fel pryder, a 63% eisiau gweld mwy o onestrwydd mewn gwleidyddiaeth.

Canfu’r un arolwg fod 73% o bobl yn cefnogi Mesur Liz Saville Roberts, gan gynnwys 71% o bleidleiswyr Ceidwadol a 79% o gefnogwyr Llafur.

Arweinydd Plaid Cymru Adam Price, fel AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn 2007, oedd y cyntaf i gyflwyno Mesur Cynrychiolwyr Etholedig (Atal Twyllo) er mwyn dal Tony Blair i gyfrif am ddefnyddio gwybodaeth gamarweiniol i gyfiawnhau Rhyfel Irac.

Cyn cyflwyno ei Mesur yn San Steffan, dywedodd Liz Saville Roberts:

“Gyda pob diwrnod sy’n mynd heibio, rydyn ni’n wynebu mwy o gelwydd, twyll, ac anonestrwydd gan yr haen uchaf o lywodraeth. Dywedwyd celwydd er mwyn ennill etholiadau, lledaenu casineb, ac osgoi craffu. Y canlyniad fu gwanhau ffydd y cyhoedd mewn democratiaeth a chwalu gwerthoedd cyffredin: yn ôl arolwg gan y felin drafod Compassion in Politics y prif werth y mae pleidleiswyr yn credu sy’n absennol o’n gwleidyddiaeth yw gonestrwydd.

“Ein dewis ni fel eu cynrychiolwyr yw naill ai cuddio a thwyllo tra bod ffydd mewn democratiaeth yn dadfeilio neu i weithredu yn enw’r rhai rydyn ni i fod i’w gwasanaethu. Dyna pam y byddaf heddiw yn dod â Mesur gerbron senedd San Steffan a fyddai, o’i basio, yn ei gwneud yn drosedd i wleidyddion ddweud celwydd yn fwriadol wrth y cyhoedd.

“Nid oes unrhyw sefydliad yn annileadwy, nid oes unrhyw bŵer yn ddiwrthdro. Mae yna systemau a strwythurau a oedd unwaith yn cael eu hystyried yn anfarwol wedi darfod ac wedi cael eu hanghofio. Ni allwn ni ganiatáu i'n democratiaeth seneddol - a'r gwerthoedd y mae wedi'i hadeiladu arnynt - fynd yr un ffordd.

“Mae llawer o bobl mewn bywyd cyhoeddus yn pryderu am gyflwr ein gwleidyddiaeth. Mae llawer wedi siarad - er bod eraill wedi bod yn dawel hyd yn hyn. Does dim ots am hynny. Yr hyn sy'n bwysig rŵan yw'r hyn a wnawn nesaf. Mae’n bryd gweithio gyda’n gilydd, yn drawsbleidiol, i amddiffyn democratiaeth, gwasanaethu’r cyhoedd, a diogelu’r safonau sylfaenol y dylem i gyd eu dilyn.”