Cyllideb yr Hydref yn 'gyfle olaf' i Lafur brofi 'unwaith ac am byth' eu bod o ddifrif am gyllid teg i Gymru, meddai Arweinydd y Blaid 

Ar ddechrau tymor newydd o’r Senedd, mae Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi beirniadu y Prif Weinidog, Keir Starmer a'r Prif Weinidog, Eluned Morgan am eu methiant i weithredu ar sicrhau cyllid teg i Gymru, gan ddangos diffyg uchelgais ar gyfer dyfodol Cymru. 

Y llynedd, broliodd Eluned Morgan drwy ddweud fod Keir Starmer ‘yn gwrando’ arni am yr angen i gynyddu cyllid Llywodraeth Cymru ac adolygu sut mae Cymru yn cael ei chyllido, a dywedodd ei bod wedi trafod diwygio fformiwla Barnett gyda'r Canghellor.  

Deuddeg mis yn ddiweddarach ac nid yw Cymru'n gam yn agosach at dderbyn cyllid teg – rhywbeth y mae Arweinydd Plaid Cymru wedi'i frandio fel "cyhuddiad damniol o'u diffyg uchelgais".  

Wrth gyhuddo Llafur o "gymryd pleidleiswyr Cymru yn ganiataol am rhy hir", dywedodd Rhun ap Iorwerth na fyddai llywodraeth Plaid Cymru yn gorffwys nes i San Steffan gytuno i gywiro'r camgymeriad hanesyddol o gyllid annheg. 

Dywedodd Mr ap Iorwerth mai Cyllideb yr Hydref oedd cyfle Llafur i brofi 'unwaith ac am byth' eu bod o ddifrif ynglŷn â chyllid teg i Gymru. 

Ym mis Mehefin 2025, cefnogodd Aelodau'r Senedd gynnig Plaid Cymru yn unfrydol i ddileu Fformiwla Barnett, ond nid yw 'llais Cymru yn golygu dim i Lafur yn Llundain' yn ôl Mr ap Iorwerth. 

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS: 

"Mae blwyddyn wedi pasio bellach ers i Brif Weinidog Cymru ddweud yn falch bod y Prif Weinidog, Keir Starmer ‘yn gwrando’ arni pan ddaw i gyllid teg i Gymru – ond eto does dim cynnydd i'w weld, a’n gwasanaethau cyhoeddus sydd eisoes o dan warchae sy'n talu'r pris am hynny. 

"O dan y system bresennol, mae Cymru'n talu'r bil am HS2 – a hwnnw werth biliynau o bunnoedd, ac yn colli allan ar £72m o ganlyniad i gynnydd yswiriant gwladol Llafur - i enwi ambell enghraifft yn unig. 

"Mae'n amlwg nad yw llais Cymru yn golygu dim i Lafur yn Llundain, ac nad yw'r Prif Weinidog yn barod i fynnu beth sy'n ddyledus i ni gan ei phenaethiaid yn Llundain. 

"Dim ond llywodraeth Plaid Cymru fydd yn cymryd yr angen i wneud yr achos hwn o ddifri gyda San Steffan, ac fel Prif Weinidog fyddwn i ddim yn gorffwys nes iddyn nhw gytuno i gywiro'r anghyfiawnder hanesyddol hwn. 

 "Gyda Chyllideb y DU i'w gyhoeddi ym mis Tachwedd, dyma gyfle i Lafur brofi unwaith ac am byth eu bod o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei gyllido."