Liz Saville Roberts wedi ei hail-ethol yn arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan
‘Grŵp cryf a deinamig yn helpu i adeiladu momentwm tuag at 2026’
Heddiw (dydd Mercher 10 Gorffennaf) mae Liz Saville Roberts AS wedi ei hail-ethol yn arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
Yn dilyn ei hail-ethol fel arweinydd y grŵp, tynnodd Ms Saville Roberts sylw at bwysigrwydd “grŵp cryf a deinamig” y blaid wrth ledaenu “neges gadarnhaol o newid” Plaid Cymru ar draws Cymru.
Dywedodd arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth, y bydd y grŵp yn San Steffan yn “chwarae rhan hanfodol wrth adeiladu ar fomentwm Plaid Cymru tuag at 2026”.
Yn yr Etholiad Cyffredinol, ail-etholwyd Liz Saville Roberts a Ben Lake gyda mwyafrifoedd sylweddol uwch yn Nwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli. Enillodd Plaid Cymru Caerfyrddin ac Ynys Môn oddi wrth y Ceidwadwyr hefyd, gydag Ann Davies a Llinos Medi yn ymuno â’r grŵp cryfach yn San Steffan.
Bydd Ms Saville Roberts hefyd yn cynrychioli Plaid Cymru ar faterion yn ymwneud â Swyddfa Cymru; y Weinyddiaeth Gyfiawnder; y Swyddfa Gartref; Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol; Swyddfa’r Cabinet; a’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Bydd Ben Lake AS yn gwasanaethu fel Ysgrifennydd y Grŵp a Thrysorydd, yn siarad ar ran y grŵp ar y Trysorlys; y Swyddfa Dramor a Chymanwlad; a Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg.
Bydd Ann Davies AS yn siarad ar ran y grŵp ar yr Adran Gwaith a Phensiynau; yr Amgylchedd a Materion Gwledig; Addysg; Trafnidiaeth; a Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Bydd Llinos Medi AS yn siarad ar ran y grŵp ar yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net; Busnes a Masnach; Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol; Iechyd; a Chydraddoldeb.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS:
“Rwy’n falch o arwain y tîm arbennig hwn o ASau Plaid Cymru, sydd yn cynrychioli ein cyfran uchaf erioed o gynrychiolwyr Cymreig yn San Steffan. Ynghyd â Ben Lake, Llinos Medi, ac Ann Davies, rydym yn ffurfio grŵp cryf a deinamig sydd wedi ymrwymo i ledaenu ein neges o newid cadarnhaol ledled Cymru. Rydym yn barod i ddechrau’n gwaith.
“Dangosodd yr Etholiad Cyffredinol fod momentwm gyda Phlaid Cymru. Byddwn yn gweithio’n galed i gynnal y momentwm hwnnw wrth inni agosau at etholiadau Senedd Cymru yn 2026, a dangos bod gan bobl Cymru eiriolwyr cadarn a fydd bob amser yn sefyll dros eu buddiannau.”
Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth MS:
“Ers ei hethol yn 2015, mae Liz wedi bod yn hyrwyddwr di-ofn dros Gymru ac yn seneddwr dawnus. Mae hi wedi ennill parch gan ASau ar draws pleidiau ac yn sicrhau bod gan Blaid Cymru broffil amlwg yn San Steffan.
“Bydd grŵp cryfach Plaid Cymru yn sicrhau na all Cymru gael ei hanwybyddu gan y Llywodraeth Lafur a bydd yn achub ar bob cyfle i ledaenu gweledigaeth Plaid Cymru o Gymru decach, fwy uchelgeisiol, mewn cyferbyniad llwyr â rheolaeth di-fflach Llafur ym Mae Caerdydd. Rwy’n gwbl hyderus y bydd y pedwar yn chwarae rhan hollbwysig wrth adeiladu ar fomentwm Plaid Cymru tuag at 2026.”