Mae Llafur yn “rhoi’r brêcs ar ddyheadau Cymru”, bum mlynedd ar hugain ar ôl sefydlu senedd i Gymru, bydd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS yn dadlau heddiw.

Wrth siarad cyn Cwestiynau’r Prif Weinidog olaf cyn Etholiad Cyffredinol y DU ddydd Iau 4 Gorffennaf, dywedodd Rhun ap Iorwerth mai Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd wedi dweud “ie” i Gymru yn unol â dymuniadau pobl ers 1997.

Bydd Rhun ap Iorwerth AS yn herio Llafur ar eu tueddiad i 'wneud un peth a dweud y llall' ar faterion fel ariannu teg, arian HS2 sy'n ddyledus i Gymru, dod â'r cap ar fudd-daliadau dau blentyn i ben a datganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona - ble mae unrhyw awydd gan Lafur yng Nghymru i fynd ar ol y materion hyn yn cael eu diddymu gan Bencadlys Llafur yn Llundain.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae hanes gwleidyddol Cymru ers bron i ddeng mlynedd ar hugain yn un o’n cenedl yn dweud “ie.”

“Ie” yn 1997 i gael ein senedd ein hunain ac “ie” i wneud mwy o’n penderfyniadau ein hunain yn 2011.

“Ar ôl pum mlynedd ar hugain mewn grym yng Nghymru, mae’n ymddangos bod y Blaid Lafur bellach yn rhoi’r brêcs ar ddatganoli ac yn methu â chadw i fyny ag uchelgeisiau pobol.

“Beth bynnag mae Llafur yng Nghymru yn honni ei fod yn ei gredu, mae unrhyw ymdrechion i ymuno â Phlaid Cymru i ddweud “ie” i ariannu teg, symiau canlyniadol HS2, cael gwared ar y cap ar fudd-daliadau dau blentyn a datganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona yn disgyn ar glustiau byddar yn Llundain.

“Mae Keir Starmer wedi ei gwneud yn glir pan ddaw i Gymru, ei ateb yn rhy aml yw “na.”

“Mae cadw grym yn San Steffan yn rhywbeth rydyn ni wedi arfer ag ef gan y Torïaid, ond gyda Llafur y DU yn mabwysiadu agwedd debyg, mae’n amlwg mai dim ond ASau Plaid Cymru fydd yn rhoi llais i Gymru yn Senedd y DU.

“Mae aelodau Llafur yng Nghymru yn llygad eu lle mai’r cap ar fudd-daliadau dau blentyn yw’r gyrrwr unigol mwyaf ar gyfer tlodi plant.

“Mae aelodau Llafur yn cytuno â ni y dylid trosglwyddo rheolaeth dros Ystadau’r Goron i Gymru, fel rhan o’r ymdrech i ddatgloi ein potensial economaidd.

“Pe bai dim ond Keir Starmer yn eu parchu ac yn gwrando.

“Fel y mae pethau, rydyn ni'n wynebu mwy o'r un peth - mwy o doriadau i wasanaethau cyhoeddus ond dim mwy o bwerau i newid ein cenedl er daioni.

“Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi cael llond bol ar sut mae Llafur yn cymryd Cymru’n ganiataol i bleidleisio i Blaid Cymru ar 4 Gorffennaf fel yr unig blaid sydd wedi ymrwymo i roi ein cymunedau o flaen buddiannau’r pleidiau.”