“Dyma Blaid Cymru ar ei gorau: gweithredu a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl” – Arweinydd Plaid Cymru Adam Price

Darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl, diogelu swyddi ac incwm, a mynd i’r afael â’r argyfwng tai fydd prif flaenoriaethau Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau lleol sydd i ddod, meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price.

Bydd Plaid Cymru yn lansio eu hymgyrch etholiad llywodraeth leol a’u maniffesto heddiw (dydd Gwener 8 Ebrill 2022) yng Ngwesty’r Quay yn Neganwy, Conwy.

Wrth ganmol record cynghorau a chynghorwyr Plaid Cymru, mae disgwyl i Arweinydd Plaid Cymru Adam Price amlinellu llwyfan polisi “uchelgeisiol” ei blaid fydd yn “adnabod y problemau, yn cynnig atebion, ac yn bwysicaf oll, yn profi sut mae cael cynghorwyr Plaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru”.

Mae disgwyl i Mr Price ailadrodd ei brif addewid y bydd pob cyngor dan arweiniad Plaid Cymru yn ymrwymo i’r nod o ymestyn Cinio Ysgol Am Ddim i ddisgyblion uwchradd o fewn tymor nesaf y cyngor – gyda ffocws ar brydau maethlon o ffynonellau lleol. Mae’r blaid eisoes wedi sicrhau prydau ysgol am ddim i blant ysgol gynradd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i Mr Price hefyd amlinellu’r polisïau blaenllaw a ganlyn:

  • Mynd i’r afael ag argyfwng tai Cymru drwy adeiladu tai cymdeithasol mwy ynni-effeithlon a charbon-bositif, mwy o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy, cymryd camau radical ar ail gartrefi a rhoi diwedd ar ddigartrefedd.
  • Gofal Plant am Ddim i bob plentyn dwy oed
  • Manteisio ar botensial Cymru ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned, fel rhan o darged i gyrraedd Allyriadau Di-Garbon Net erbyn 2030
  • Cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a chefnogi busnesau lleol, i ddiogelu swyddi ac incwm lleol.

Daw’r etholiad ar adeg “heriol” i gymunedau ledled Cymru gan fod disgwyl i’r argyfwng costau byw adael y cartref cyffredin yng Nghymru o leiaf £600 yn waeth eleni – gyda phrisiau cynyddol am hanfodion bob dydd a biliau ynni yn rhoi pwysau ar incwm. Fodd bynnag, addawodd Mr Price y byddai cynghorau a chynghorwyr Plaid Cymru yn parhau i “weithredu” a “gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau bob dydd pobl” yn wyneb yr heriau hyn.

Bydd arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn ymuno yn y lansiad gyda llu o ymgeiswyr llywodraeth leol ei blaid gan gynnwys Sue Lloyd-Williams, ymgeisydd Ward Llansannan ac Aaron Wynne, ymgeisydd dros Ward Llanrwst, Llanddoged a Maenan, ym Mwrdeistref Sirol Conwy.

Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS,

“Mae Cymru’n wynebu sawl her wrth wynebu’r etholiad hwn -heriau sy'n gofyn am leisiau lleol cryf sy'n gwrthod derbyn hyn cystal ag y mae'n ei gael i'n cymunedau.

“Mae gan gynghorwyr Plaid Cymru hanes cryf o sefyll ochr yn ochr â phobl y maen nhw’n eu cynrychioli – o redeg banciau bwyd i arwain y gwaith glanhau ar ôl llifogydd. A thros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pedwar Arweinydd Cyngor Plaid Cymru a’u timau wedi mynd gam ymhellach i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn eu cymunedau drwy sicrhau bod plant yn gallu parhau i ddysgu, busnesau barhau i fasnachu, a gwasanaethau allweddol yn gallu parhau megis casglu sbwriel.

“Mae’r ysbryd hwnnw wedi’i ymgorfforio yn y maniffesto rydyn ni’n ei lansio heddiw cyn yr Etholiadau Lleol. Dyma rhaglen o bolisïau sy’n adnabod problemau, yn cynnig atebion, ac yn bwysicaf oll, yn profi sut mae cael cynghorwyr Plaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae disgwyl hefyd i Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS ddweud,

“Mae Plaid Cymru eisoes wedi sicrhau prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Nawr, rydym am fynd ymhellach. Dyna pam, ein prif gynnig yn yr ymgyrch hon yw y bydd cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru yn anelu at ymestyn Prydau Ysgol Rhad ac Am Ddim i ddisgyblion uwchradd o fewn tymor nesaf y cyngor.

“Byddwn yn mynd i’r afael ag argyfwng tai Cymru drwy adeiladu tai mwy ynni-effeithlon, gwirioneddol fforddiadwy, a chymryd camau radical ar ail gartrefi a rhoi diwedd ar ddigartrefedd. A byddwn yn cryfhau cadwyni cyflenwi lleol ac yn cefnogi busnesau lleol - gan ddiogelu swyddi ac incwm lleol yng nghanol argyfwng costau byw.

“Dyma Blaid Cymru ar ei gorau – yn gweithredu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pob dydd pobl.