Portffolio: Diogelwch Ynni a Sero Net; Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol; Iechyd; Busnes a Masnach; Cydraddoldeb
Etholwyd Llinos yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn yn 2024, gan gipio'r sedd oddi ar y Ceidwadwyr.
Ers cael ei hethol yn Gynghorydd Sir dros ward Talybolion yn 2013, ac yna fel Arweinydd benywaidd cyntaf y Cyngor, mae Llinos wedi bod yn benderfynol o fynnu’r gorau i’r ynys bob amser.
Mae ganddi gefndir mewn cefnogi defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion a mudiadau Ffermwyr Ifanc. Cafodd Llinos ei henwi ar restr o 100 o Ferched Cymru sydd wedi cael effaith arwyddocaol o fewn eu meysydd, rhestr a luniwyd gan y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod yn 2020.
Bydd Llinos yn lais lleol fydd wastad yn sefyll dros fuddiannau Ynys Môn yn San Steffan, gan ddal y Llywodraeth Lafur i gyfrif a mynnu buddsoddiad yng nghymunedau Môn.
Mae'n benderfynol o gynrychioli pob cornel a chymuned o Ynys Môn mewn ffordd adeiladol a chydweithredol, dros ddyfodol gwell i bawb sy’n byw ar yr ynys.