Enwyd Llŷr Gruffydd yn Arweinydd Gweithredol Plaid Cymru ym mis Mai 2023.

Mae wedi cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru yn y Senedd ers 2011. Yn y cyfnod hwnnw, mae wedi gwasanaethu fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg, Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ac yn fwyaf diweddar mae’n dal portffolio Cyllid a Llywodraeth Leol.

Dechreuodd Llŷr ei yrfa fel gweithiwr ieuenctid, cyn mynd i weithio i Gyngor Ieuenctid Cymru a Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol. Yn ddiweddarach daeth yn rheolwr prosiect ar gyfer cwmni datblygu economaidd. Mae Llŷr hefyd wedi bod yn Ymgynghorydd Rheoli i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.

Mae'n byw yn Rhuthun ac yn dad i bedwar o blant.