I bobl Cymru,

Mae gennych chi a minnau y fraint o fyw yn un o’r cenhedloedd hyfrytaf ar y ddaear.

O gopaon Eryri i resi tai lliwgar Dinbych y Pysgod, o draethau ysblennydd Penrhyn Gŵyr i fawredd Bannau Brycheiniog.

Mae Cymru’n wastad wedi gwneud yn well nag yr awgrymir gan ei maint. Fel gweithdy’r byd, ein llechi a’n glo oedd y grym y tu ôl i beiriant y Chwyldro Diwydiannol.

Ond potensial y dydd heddiw, nad yw wedi ei ryddhau, ddylai ein sbarduno oll.

Mae Cymru yn genedl sy’n gyforiog o adnoddau naturiol. Mae ysbryd mentrus ein pobl yn amlwg yn y rhestr faith o arloeswyr a dyfeiswyr. Mae enw da i’n hiaith, ein diwylliant a’n golygfeydd ledled y byd.

Ond mae ein dwylo wedi eu clymu. Mae cymaint o benderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau  yn cael eu gwneud gan senedd arall mewn lle arall. Perthynas o wrthod yw perthynas San Steffan â Chymru - gwrthod buddsoddi ynom ni a gwrthod ein hawl ddemocrataidd i benderfynu ar faterion drosom ein hunain.

Mae’n hawdd crynhoi anghydraddoldeb erchyll y wladwriaeth Brydeinig o edrych ar y cynllun i wario £5biliwn ar Senedd San Steffan – mae hynny’n cyfateb i 1/3 o holl gyllideb Cymru – tra bod 200,000 o blant Cymru yn byw mewn tlodi.

6% yn unig o Dŷ’r Cyffredin  yw ASau Cymru, ond eto, mae’r 94% sydd weddill yn cael penderfynu ar sut y mae pynciau sy’n ymwneud â’r economi, cyfiawnder, darlledu ac amddiffyn yn effeithio ar Gymru.

Mae bron i 250 biliwn litr o ddŵr yn cael eu hallforio o Gymru bob blwyddyn, ond tydyn ni ddim  yn cael yr un geiniog goch amdano.

Mae gan Gymru 11% o rwydwaith rheilffyrdd Cymru, ond 1.6% yn unig o’r buddsoddiad a gaiff. Dyw San Steffan ddim yn gweithio i Gymru o gwbl.

Ond does dim rhaid iddi fod fel hyn. Trwy fynnu y dylai penderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, gallwn gael llywodraeth sy’n wirioneddol atebol wedi ei sbarduno gan anghenion a dyheadau pobl Cymru. Dyna sut beth yw gwir ddemocratiaeth.

Ar ddydd Mercher, cefais y fraint o ymuno â’m cydweithwyr o Blaid Cymru i gynnal y ddadl gyntaf ar annibyniaeth yn ein Senedd. Y cwestiwn oedd nid a oedd yr Aelodau yn cefnogi annibyniaeth ei hun ond a oeddent yn cefnogi’r egwyddor o ganiatáu i Gymru benderfynu ar ei dyfodol cyfansoddiadol ei hun.

Er i mi dristáu o weld gwrthod y cynnig, fe’m trawyd gan y don o optimistiaeth a ddilynodd y ddadl – nid ydym bellach yn nofio yn erbyn y llanw. Gyda ni mae’r momentwm.

Annibyniaeth yw’r cyflwr normal i 193 o wledydd y byd. Enillodd 62 o wledydd eu hannibyniaeth oddi wrth y DG, a does yr un ohonyn nhw wedi edrych yn ôl. Wedi ennill ei hannibyniaeth o’r Deyrnas Gyfunol, aeth Iwerddon o fod yn un o rannau tlotaf Ewrop i fod yn un o’r rhai mwyaf ffyniannus.

Os gallan nhw wneud hynny, pam na all Cymru?

Does dim rhaid i annibyniaeth fod yn fater pleidiol – amrywiaeth yr achos yw ei gyfoeth. Ond fe ddaw pwynt pan mai’r unig ffordd o wireddu hyn yw trwy bleidleisio drosto.

Fis Mai nesaf, doed a ddelo, byddaf i’n sefyll fel yr unig ymgeisydd i fod yn Brif Weinidog sy’n sefyll dros annibyniaeth.

Os bydd digon ohonom yn dweud ‘ie’, gallwn adeiladu’r Gymru newydd gyda’n gilydd.

Dros Gymru,

Adam Price