‘Cenedl sy’n ddigon hyderus i ddangos tosturi tuag at eraill’ - Liz Saville Roberts
Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn amlinellu gweledigaeth o genedlaetholdeb Cymreig cynhwysol, gan dynnu ar ei phrofiad fel ‘merch sy'n mynnu dweud ei dweud o dde-ddwyrain Llundain’
Yn ei haraith gloi yng Nghynhadledd Hydref Plaid Cymru 2025, amlinellodd Arweinydd San Steffan, Liz Saville Roberts AS, ei gweledigaeth gynhwysol o genedlaetholdeb Cymreig wedi’i seilio ar dosturi, cymuned, a chynhwysiant.
Gan fyfyrio ar ei phrofiad fel rhywun anwyd yn ne-ddwyrain Llundain ac a symudodd i Gymru fel oedolyn, pwysleisiodd Ms Saville Roberts nad yw hunaniaeth Gymreig yn ymwneud â ble rydych wedi’ch geni, ond yn ymwneud â pherthyn a gwerthoedd.
Mae Plaid Cymru yn gosod ei hun fel llywodraeth nesaf Cymru wrth agosau at etholiad Senedd 2026, gyda’r arweinydd Rhun ap Iorwerth yn addo “llywodraeth newydd, gydag egni newydd a syniadau newydd.” Mae Llafur wedi arwain Cymru ers dechrau datganoli ym 1999 ac wedi dominyddu gwleidyddiaeth Cymru ers canrif. Mae polau piniwn diweddar yn awgrymu bod Plaid Cymru bellach yn cystadlu i ddisodli Llafur fel y blaid flaenllaw ym Mae Caerdydd.
Yn ystod cynhadledd y blaid yn Abertawe, mae'r blaid yn ceisio adeiladu clymblaid eang ar draws ardaloedd trefol a gwledig, siaradwyr Cymraeg a phobl di-Gymraeg, a lleoli ei hun fel y blaid flaenllaw yn erbyn Reform UK yn etholiad 2026.
Mewn cyfeiriad at rethreg gwrth-fudo Reform UK a chynnydd yr asgell dde eithafol yng Nghymru, dywedodd Ms Saville Roberts bod cenedlaetholdeb ei phlaid yn un sy'n "cynnwys ac yn adeiladu - nid un sy'n rhannu."
Wrth annerch aelodau'r blaid, tynnodd Ms Saville Roberts sylw at y cyfle hanesyddol i Blaid Cymru arwain yng Nghymru:
"Mae Plaid Cymru ar fin wynebu ei etholiad pwysicaf. Am y tro cyntaf, mae arwain llwyodraeth yng Nghymru o fewn cyffwrdd i ni. Llywodraeth sy'n rhoi pobl yn gyntaf, sy'n buddsoddi yn nyfodol ein plant, ac sy'n gwrando ac yn gweithredu gyda thrugaredd a phenderfyniad."
Myfyriodd ar ei thaith bersonol i hunaniaeth Gymreig:
“Rwy'n ferch sy'n mynnu dweud ei dweud o dde-ddwyrain Llundain. Wedi fy ngeni a'm magu ar ochr arall Clawdd Offa – dim cysylltiad teuluol Cymreig. Ond fel menyw ifanc, des i i Aberystwyth i astudio – ac fe wnes i ddarganfod rhywbeth rhyfeddol. Fe wnes i ddod o hyd i iaith a newidiodd fy mywyd. Fe wnes i ddod o hyd i le rwy'n perthyn iddo.
“Nid yw bod yn Gymraes neu’n Gymro yn ymwneud â ble rydych chi wedi'ch geni na phwy oedd eich rhieni. Mae'n ymwneud â pherthyn. Mae'n ymwneud â gwerthoedd rydyn ni’n eu rhannu – parch, undod, a chymuned.”
Tynnodd sylw hefyd at y ffaith bod gweledigaeth ei phlaid yn gynhwysol, nid yn rhaniadol:
“Dwi bellach yn Gymraes – yn fy meddwl a’m calon. Rwyf wedi cael fy ethol gan fy nghymuned er nad wyf o'r fan honno – oherwydd mae fy nghymuned yn gwybod y gall unrhyw un fod yn Gymro cyn belled â'u bod wedi ymrwymo i'r lle a'r bobl o'u cwmpas.”
“Nid yw cenedlaetholdeb Cymreig erioed wedi bod am honni ein bod yn fwy neu'n well nag eraill. Mae'n ymwneud â gofalu am y lle rydyn ni'n ei alw'n gartref.”
Gan gyfeirio at deimladau gwrth-fudwyr a chynnydd yr asgell dde eithafol, dywedodd Ms Saville Roberts:
“Wrth i rymoedd tywyll dyfu ein cymunedau ac ar ein ffonau symudol, mae’n rhaid i ni amddiffyn Cymreictod sy’n croesawu. Cenedl sy’n cynnwys ac yn adeiladu – nid un sy’n rhannu.
“Cymru sy’n ddigon hyderus ynddi ei hun i ddangos tosturi a chynnig lle i eraill berthyn. Cymru sy’n ddigon hyderus yn ei hunaniaeth ei hun fel nad oes angen iddi byth ofni hunaniaeth rhywun arall. Dyna’r hyn yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn ei adeiladu.”
Diwedd.