Plaid yn addo refferendwm annibyniaeth a’r “rhaglen fwyaf radical er 1945”

Heddiw, bydd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, yn nodi’r hyn y bydd yn ei ddisgrifio fel “y rhaglen fwyaf radical uchelgeisiol a thrawsnewidiol a gynigir gan unrhyw blaid mewn unrhyw etholiad yng Nghymru er 1945” wrth i’r blaid ddadorchuddio maniffesto ar gyfer yr etholiad Senedd 2021.

Bydd Adam Price yn dweud y bydd y “polisïau ymarferol, y gellir eu cyflawni a sydd wedi eu costio’n llawn” yn sicrhau dyfodol tecach, gwyrddach a mwy llewyrchus i Gymru trwy ganolbwyntio ar bum maes allweddol.

Disgwylir i Mr Price nodi’r polisïau a ganlyn:

  • Llwybr i lwyddiant, gan gynnwys Bargen Werdd Cymru sy'n creu hyd at 60,000 o swyddi newydd, gwarant swyddi ieuenctid i bobl ifanc 16-24 oed, benthyciadau di-log i gefnogi busnesau bach i adfer ar ôl Covid a chreu Ffyniant Cymru (asiantaeth gyflawni economaidd)
  • Rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru trwy estyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, buddsoddi mewn 4,500 o athrawon a staff cymorth ychwanegol, a darparu gofal plant am ddim o 24 mis.
  • Bargen deg i deuluoedd trwy dorri bil treth y cyngor ar gyfartaledd, cyflwyno taliad wythnosol i blant yn codi i £35 yr wythnos, a darparu 50,000 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy.
  • Gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol di-dor sy'n darparu gofal cymdeithasol - am ddim yn ol yr angen, yn hyfforddi ac yn recriwtio 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig ac yn gwarantu isafswm cyflog o £10 yr awr i weithwyr gofal.
  • Gwynebu'r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth trwy osod Cenhadaeth Cymru 2035 i ddatgarboneiddio, sefydlu Ynni Cymru (cwmni datblygu ynni) gyda'r nod o gynhyrchu 100% o drydan yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, a chyflwyno Deddf Natur yn statudol yn ogystal a targedau i adfer bioamrywiaeth erbyn 2050.

Mae maniffesto Plaid Cymru wedi’i wirio’n annibynnol gan ddau o economegwyr blaenllaw Cymru, yr Athro Brian Morgan a’r Athro Gerry Holtham.

Wrth adnewyddu addewid y blaid i gynnal refferendwm annibyniaeth erbyn diwedd tymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru, bydd Adam Price AS yn dweud bod “Cymru a San Steffan yn fwy na dau fydysawd gwahanol.”

Bydd Arweinydd Plaid Cymru yn ychwanegu:

“Yn y Maniffesto hwn rydym yn addo i adeiladu cenedl sy’n rhoi’r cyfle gorau mewn bywyd a dyfodol mwy disglair i bawb.

“Am y tro cyntaf mewn etholiad Senedd bydd pobl Cymru yn gallu pleidleisio i gymryd eu dyfodol eu hunain i’w dwylo eu hunain. Credwn mai annibyniaeth yw'r unig ffordd pendant a chynaliadwy o gyflawni cynnydd cymdeithasol ac economaidd. Felly, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn grymuso pobl Cymru i benderfynu dyfodol ein cenedl mewn refferendwm annibyniaeth.

“Nid ni yw’r wlad y dylem fod. Nid ni yw'r wlad y gallwn fod. Ac nid ni yw'r wlad rydyn ni am fod.

“Mae gan Gymru botensial anhygoel fel cenedl. Nid yw'r problemau yr ydym wedi'u cael ers cenedlaethau yn anochel. Gallwn ddatrys y problemau hyn, gyda'n gilydd. Ond y cam cyntaf yw ethol Llywodraeth newydd sydd â’r uchelgais i adeiladu Cymru newydd sy’n well na’r hen.

“Ni fydd San Steffan byth yn gweithio i Gymru. Rydym yn byw mewn bydysawd gwahanol. Yn ein un ni rydym am wobrwyo ein gweithwyr gofal iechyd. Yn eu byd hwy:

  • Mae codiad cyflog o 1 y cant i nyrsys a chynnydd o 44 y cant ar gyfer arfau niwclear.
  • Mae yna danariannu hanesyddol yn rheilffyrdd ein gwlad, tra bod mwy na £ 100 biliwn yn cael ei wario ar HS2 a fydd yn cysylltu'r wlad drws nesaf heb unrhyw ganlyniad i reilffordd gyflym rhwng gogledd a de ein gwlad.
  • Mae £12 biliwn yn cael ei wario ar adnewyddu Palas San Steffan, tra bod senedd a etholwyd yn uniongyrchol yng Nghymru yn cael ei thanseilio - gan danseilio'r datganoli y mae pobl Cymru wedi pleidleisio drosto ar ddim llai na 14 achlysur, trwy ddau refferendwm a chyflawni mwyafrifoedd o blaid datganoli ym mhob etholiad er 1997.

“Mae'r amser i roi’r freuddwyd Gymreig fawr honno o gyfiawnder cymdeithasol a chynnydd economaidd i bawb ar waith.”