Plaid Cymru yn galw am ymchwiliad cenedlaethol i wasanaethau mamolaeth
Mae Plaid Cymru wedi galw am ymchwiliad cenedlaethol i sefyllfa gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru.
Mae hyn yn dod wedi i Wes Streeting, Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Lafur y DU, alw am ymchwiliad tebyg yn Lloegr.
Ysgrifennodd Mabon ap Gwynfor, llefarydd Plaid Cymru dros iechyd, i Jeremy Miles, Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn dweud fod problemau cyhoeddus dros y blynyddoedd diweddaraf yn codi pryderon tebyg yng Nghymru ag yn Lloegr, sydd eisoes wedi comisiynu ymchwiliad cenedlaethol.
Dangosodd adroddiad diweddar gan Llais Cymru i uned mamolaeth yn Ysbyty Singleton ddiffyg cyfrifoldeb sefydliadol, wrth i deuluoedd sydd wedi ei effeithio ddweud eu bod efo ‘ychydig iawn o hyder’ yn y mecanweithiau adolygu mewnol.
Cododd Mr ap Gwynfor bryderon hefyd am gapasiti y gweithlu, problem roedd wedi cyfrannu tuag at fethiannau amlinellwyd yn yr adroddiad llais i Uned Mamolaeth Ysbyty Singleton. Mae’r pryderon yma i’w weld yn y ffaith fod lleihad o 35% yn y ceisiadau ar gyfer ceisiadau i gyrsiau bydwreigiaeth yng Nghymru ers 2021, sy'n fwy na'r cyfartaledd yn y DU.
Yn ysgrifennu i’r Ysgrifennydd Cabinet, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd, Mabon ap Gwynfor AS:
“Mae Cymru wedi cael y gyfradd uchaf o genedigaethau-farw yn y DU ers 2014, a tra bod Lloegr a’r Alban wedi gweld lleihad mewn cyfradd marwolaethau newydd-anedig rhwng 2010 i 2022, cynyddodd y gyfradd yng Nghymru dros y cyfnod hwn.
“Yn dilyn sawl problem ddifrifol, gyhoeddus dros flynyddoedd diweddar mewn sawl bwrdd iechyd yng Nghymru, mae gan Blaid Cymru bryderon tebyg am ansawdd gofal mamolaeth yma yng Nghymru. Ar draws sawl mesur, mae rheswm i gredu fod gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru o safon is nag yn Lloegr.
“Fel dangosir gan yr adroddiad Llais diweddar i Uned Mamolaeth Ysbyty Singleton, mae diffyg cyfrifoldeb sefydliadol yn cymhwyso methiannau clinigol. Bydd cynnal ymchwiliad o’r math yma yn mynd ymhell tuag at ail-adeiladu hyder y cyhoedd wedi blynyddoedd o safonau yn gostwng.”