Plaid Cymru yn annog Llywodraeth San Steffan i ollwng ‘gwrthwynebiad ideolegol’ i ddatganoli cyfiawnder

Mewn dadl seneddol, bydd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, heddiw (dydd Mawrth 29 Tachwedd 2022) yn galw am ddatganoli cyfiawnder i Gymru.

Senedd Cymru yw’r unig senedd yn y DU heb bwerau dros blismona a chyfiawnder.

Mae gan Lundain a Manceinion fwy o bwerau dros gyfiawnder na Chymru, er bod gan y Senedd reolaeth lawn dros feysydd polisi sy’n hanfodol i gyflawni cyfiawnder, megis tai, iechyd ac addysg.

Pan ddaw i gyfiawnder, mae Cymru, meddai Ms Saville Roberts, “yn parhau i gael ei thrin fel atodiad i Loegr er gwaethaf tystiolaeth rymus o’r niwed mae hynny’n ei achosi”.

Mae’r Ddadl yn Neuadd San Steffan (Westminster Hall Debate) wedi’i harwain gan Liz Saville Roberts ar ddatganoli cyfiawnder i Gymru yn dilyn cyhoeddi llyfr gan academyddion o Brifysgol Caerdydd a ddaeth i’r casgliad bod datganoli cyfiawnder troseddol yn llawn i Gymru yn “gam angenrheidiol” tuag at system well. .

Yn eu llyfr, The Welsh Criminal Justice System, mae Dr Robert Jones a’r Athro Richard Wyn Jones yn tynnu ar dystiolaeth o gyfweliadau, gwaith academaidd presennol, a data swyddogol i ddarparu’r adroddiad academaidd cyntaf o system cyfiawnder troseddol Cymru. Mae’r canlyniadau, yn ôl yr academyddion, yn dangos system sy’n perfformio’n wael iawn a lle mae llunio polisi effeithiol yn cael ei wneud yn anodd oherwydd trefniadau cyfansoddiadol “anghonfensiynol iawn”.

Mae tair blynedd wedi mynd heibio ers i’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru gyhoeddi adroddiad ym mis Hydref 2019 a osododd gweledigaeth hirdymor ar gyfer dyfodol cyfiawnder yng Nghymru.

Cynhyrchodd y Comisiwn 78 o wahanol argymhellion ar sut all Cymru gael system gyfiawnder sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, a’r un ganolog oedd datganoli cyfiawnder a phlismona a chreu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru.

Dywed Liz Saville Roberts fod yn rhaid i Lywodraeth y DU “ollwng eu gwrthwynebiad ideolegol i ddatganoli pwerau i Gymru.”

Cyn y ddadl, dywedodd Liz Saville Roberts:

“Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain, Manceinion. Mae gan bob un naill ai reolaeth lwyr, neu rywfaint o reolaeth ddatganoledig dros gyflawni cyfiawnder. Mae Cymru, ar y llaw arall, yn parhau i gael ei thrin fel atodiad i Loegr er gwaethaf tystiolaeth clir o'r niwed mae hynny’n ei achosi.

“Nid yw hyn yn ymwneud ag egwyddor datganoli yn unig – mae’n ymwneud â darparu gwasanaethau gwell. Fel y mae Dr Robert Jones a’r Athro Richard Wyn Jones wedi’i ddangos gyda thystiolaeth rymus, mae’r system gyfiawnder fel ag y mae yn gwneud cam â phobl Cymru.

“Mae gan Gymru’r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop, sy’n arwain at gylch dieflig o dlodi yn ogystal â phroblemau iechyd ac iechyd meddwl. Mae gennym gyfraddau uwch o droseddau treisgar a chollfarnau na Lloegr.

“Mae pobol ddu chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eu carcharu na phobl wyn. Mae bron i hanner y plant o Gymru sy’n cael eu carcharu yn cael eu cadw yn Lloegr, ymhell o’u cartrefi a chymorth teuluol, ac mae cau llysoedd wedi cyfyngu ar fynediad at gyfiawnder, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru.

“Mae gwasanaethau allweddol fel tai, iechyd ac addysg, yn hanfodol ar gyfer darparu system cyfiawnder gweithredol. Byddai datganoli yn caniatáu inni integreiddio polisi cyfiwander â pholisi iechyd, addysg, tai a chymdeithasol i greu system sy’n gwasanaethu pobl Cymru o ddifrif.

“Heddiw, byddaf yn annog llywodraeth San Steffan i ollwng eu gwrthwynebiad ideolegol i ddatganoli pwerau i Gymru – ac i ystyried a yw’r sefyllfa bresennol wir yn gweithio dros bobl Cymru.”