Ymateb Plaid Cymru i'r gyllideb.

Dywedodd Ben Lake AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys:

 “Datganiad i gefnogi’r bobl mwyaf cyfoethog gawson ni gan y Canghellor heddiw. Mae aelwydydd a busnesau ledled Cymru yn wynebu gaeaf difrifol o filiau anfforddiadwy a chwyddiant cynyddol, ac ymateb y Llywodraeth yw i blesio’r cyfoethog iawn gyda ffantasi llwyr.

“Wrth i aelwydydd gwledig gael cynnig y swm pitw o £100 i dalu eu biliau ynni, mae’r gyfradd uchaf o dreth incwm yn cael ei diddymu ac mae’r terfyn ar fonysau bancwyr yn cael ei ddileu. Mae hynny nid yn unig yn foesol anghyfiawn ond yn anghyfrifol yn economaidd.

“Cyflwynwyd y cap ar fonysau bancwyr ar draws yr UE er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng ariannol byd-eang. Bydd dychwelyd bonysau heb eu capio yn arwain bancwyr i gymryd y math o risg ormodol a arweiniodd at argyfwng ariannol 2008 yn y lle cyntaf, gan ailadrodd polisïau a arweiniodd at drallod i filiynau o bobl. 

“Ni fydd toriadau treth i’r cyfoethog iawn yn gwneud dim i sbarduno twf yn economi Cymru. O ystyried eu bod yn gwrthod buddsoddi yn ein seilwaith – rwy’n annog Llywodraeth y DU i gydnabod bod yn rhaid i’n llywodraeth yng Nghymru gael yr arfau cyllidol i ddatgloi ein potensial economaidd ein hunain. Dyna’r unig ffordd i wella bywydau pobl ledled Cymru.”