Llafur yn methu â chyrraedd unrhyw dargedau rhestrau aros
Beirniadu Llafur am 'normaleiddio disgwyliadau isel' o ran y GIG
Heddiw (21/08/2025), mae AS Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am fethu a chyrraedd unrhyw un o'u targedau'r Cynllun Adfer Gofal Cynlluniedig.
Mae'r data diweddaraf ar restrau aros wedi dangos bod y targedau ar gyfer lleihau rhestrau aros a nodir yn y Cynllun Adfer Gofal Cynlluniedig wedi cael eu methu unwaith eto.
Gosodwyd pum targed yn y Cynllun Adfer Gofal Cynlluniedig, a grëwyd yn 2022, i leihau neu ddileu arosiadau penodol o fewn y GIG yng Nghymru.
Mae'r targedau yn y Cynllun Adfer Gofal Cynlluniedig fel a ganlyn:
- Nid oes unrhyw un yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf erbyn diwedd 2022.
-
- Ers gosod y targed, nid yw erioed wedi ei gyrraedd.
- Dim un person i aros yn fwy nag dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023.
-
- Ers gosod y targed, nid yw erioed wedi ei gyrraedd.
- Dim un person i aros yn fwy nag blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn Gwanwyn 2025.
-
- Ers gosod y targed, nid yw erioed wedi ei gyrraedd.
- Cynyddu cyflymder profion ac adrodd diagnostig i wyth wythnos a 14 wythnos ar gyfer ymyriadau therapi erbyn Gwanwyn 2024.
-
- Ers gosod y targed, nid yw erioed wedi ei gyrraedd.
- Dylid gwneud diagnosis a thriniaeth canser o fewn 62 diwrnod ar gyfer 80% o bobl erbyn 2026.
-
- Ers gosod y targed, nid yw erioed wedi ei gyrraedd.
Yn ôl Mr ap Gwynfor, mae’r ystadegau a ryddhawyd heddiw yn dangos 'data anghyson sydd yn gwbl anghynaladwy’. Cyfeiriodd at y ffaith bod canran y cleifion canser sy'n cyrraedd y targed 62 diwrnod wedi gostwng y mis hwn, o 61.3% i 60.2%, y ddau yn sylweddol is na'r targed o 80%.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd mai Llafur oedd ar fai am 'normaleiddio disgwyliadau isel', trwy ddathlu'r ffaith bod y GIG yn methu targedau 'sydd eisoes wedi'u gwanhau', fel targed y Prif Weinidog i leihau arosiadau dwy flynedd i 8,000 erbyn Gwanwyn 2025, ar ôl methu â'u dileu erbyn 2022 fel y gobeithiwyd yn wreiddiol yn y Cynllun Adfer Gofal Cynlluniedig.
Aeth Mr ap Gwynfor ymlaen i esbonio bod methiant Llafur i leihau rhestrau aros yn cael effaith andwyol ar weddill gweithredoedd y Llywodraeth, gyda symiau cynyddol o arian yn cael eu gwario ar geisio, a methu â lleihau rhestrau aros - cyfanswm o £1.5bn yn y tymor Senedd hwn yn unig.
Mewn ymateb i'r rhestrau aros a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor:
"Mae unrhyw gynnydd yn cael ei groesawu, ond mae'r anghysondeb hwn yn y data yn gwbl anghynaladwy. Ymateb y Llywodraeth yw rhoi ‘plaster’ hynod o ddrud ar glwyf dwfn iawn.
"Y gwir amdani yw bod y rhestrau aros hyn yn symptom o broblemau dyfnach o fewn y gwasanaeth iechyd, a hyd nes iddyn nhw fynd i'r afael â'r problemau hyn - llywodraethu, gofal cymdeithasol, a gofal sylfaenol - yna byddwn yn parhau i weld y ffigyrau'n mynd i fyny ac i lawr.
"Dyma pam mae Plaid Cymru wedi creu cynlluniau cynhwysfawr sydd wedi'u cyd-gynllunio gyda chlinigwyr a rheolwyr y GIG, i fynd i'r afael â'r rhestrau aros yn y tymor byr, a gosod y sylfeini ar gyfer y tymor hir.
"Mae'r methiant i gyrraedd y targedau canser eto yn arbennig o bryderus gan ein bod yn gwybod bod triniaeth gynnar yn achub bywydau, a dyna pam mae angen strategaeth Canser cynhwysfawr ar gyfer Cymru, yn hytrach na'r dull dryslyd presennol."
Ar fethiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd unrhyw dargedau ers eu gosod gyntaf, ychwanegodd Mr ap Gwynfor:
"Nid yw Llafur erioed wedi cyrraedd unrhyw un o'r targedau maen nhw'n gosod eu hunain ar gyfer ein GIG. Ond yn waeth na hynny, pe baech chi'n ôl-ddyddio'r ystadegau i gyn i'r targedau gael eu gosod, nid ydynt wedi eu cyrraedd ers dros ddegawd.
"Mae Llafur wedi cael cyfleoedd di-ri dros ddegawdau i leihau rhestrau aros, ond mae nhw'n parhau i'w methu, hyd yn oed o'u cymharu â thargedau sydd eisoes wedi'u gwanhau.
"Y gwir amdani yw bod pobl yn aros yn hirach am driniaeth ledled Cymru, a thrwy honni fel arall, mae Llafur yn ceisio normaleiddio disgwyliadau isel a hawlio buddugoliaethau am gynnydd sydd ddim yn bodoli.
"Gyda £120 miliwn wedi'i daflu at ymdrechion aflwyddiannus i leihau rhestrau aros yn ystod y misoedd diwethaf, a dros £1.5 biliwn dros y tymor hwn yn y Senedd, mae'n amlwg bod amser Llafur ar ben ar ôl 26 mlynedd o fethiant.
"Mae pobl Cymru a’n staff rheng flaen sy’n gweithio’n ddiflino yn haeddu gwell, maen nhw'n haeddu GIG sy'n addas i'r diben, maen nhw'n haeddu arweinyddiaeth newydd. Mae 2026 yn cynnig cyfle i bobl Cymru gael arweinyddiaeth newydd o dan Blaid Cymru, a fydd yn cymryd o ddifrif yr heriau sy'n wynebu ein GIG, ar gyfer Cymru iachach."