"Mae Plaid Cymru wedi sicrhau carreg filltir bwysig" - Rhun ap Iorwerth

Fel rhan o Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru, mae Grŵp Arbenigol yn cael ei sefydlu i ddatblygu'r gwaith o greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru.

Bydd aelodaeth y Grŵp Arbenigol yn cynnwys unigolion â chefndiroedd amrywiol gan gynnwys unigolion sydd â phrofiad o redeg gwasanaethau gofal cymdeithasol a llywodraeth leol, academyddion, a'r rhai mwyaf gwybodus am y berthynas rhwng y GIG a Gofal Cymdeithasol.

Disgrifiwyd y datblygiad gan Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Iechyd Plaid Cymru, fel "carreg filltir bwysig" wrth fynd â Chymru yn nes at gael Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol a fydd yn "hanfodol" wrth fynd i'r afael â'r bylchau presennol yn y ddarpariaeth.

Bydd y Grŵp Arbenigol yn anelu at ddarparu argymhellion erbyn diwedd Ebrill 2022 gyda'r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2023.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

"Mae creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru er mwyn dod ag iechyd a gofal cymdeithasol yn agosach at ei gilydd a mynd i'r afael â'r bylchau yn y ddarpariaeth bresennol yn un o ymrwymiadau hir-sefydlog Plaid Cymru.

"Wrth wneud cynnydd ar y mater hwn fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru, mae Plaid Cymru wedi sicrhau carreg filltir bwysig wrth fynd â Chymru gam yn nes at gael Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol gwirioneddol.

"Bydd y rhai sy'n rhan o'r Grŵp Arbenigol yn dod â mewnwelediad a phrofiad gwerthfawr, gan sicrhau bod y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion rhai o'n dinasyddion mwyaf bregus o'r cychwyn cyntaf.

"Mae hefyd yn hanfodol bwysig bod y Grŵp Arbenigol yn ymgysylltu'n llawn â'r rhai sydd yn y rheng flaen yn darparu gofal ac yn sicrhau bod yr argymhellion yn adlewyrchu eu barn nhw.

"Rwy'n benderfynol ein bod yn darparu iechyd a gofal mewn ffordd gydgysylltiedig sy'n rhoi angen y claf neu'r defnyddiwr gwasanaeth wrth ei wraidd, ond hefyd ein bod yn darparu gwasanaeth sy'n denu, yn cefnogi ac yn gwobrwyo staff yn briodol.

"Gobeithiaf y bydd yr argymhellion a fydd yn cael eu darparu erbyn diwedd mis Ebrill eleni yn rhoi sylfeini cadarn i ni adeiladu sefydliad newydd y mae mawr ei angen ac un mae arweinwyr iechyd a gofal yn dadlau o’i blaid ers blynyddoedd lawer."