Byddai peidio â gwneud hanes Cymru yn orfodol yn arwain at anghydraddoldebau meddai Sian Gwenllian AS

Gallai’r cwricwlwm newydd ddod yn “loteri cod post” os nad yw hanes Cymru yn cael ei gynnwys fel elfen orfodol ar wyneb y bil mae Plaid Cymru wedi rhybuddio.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Addysg, Sian Gwenllian AS, y byddai peidio â chynnwys hanes Cymru, gan gynnwys hanes pobl du a phobl o liw, fel rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd gydag adnoddau a hyfforddiant i athrawon yn arwain at loteri cod post.

Mae’r blaid wedi cyflwyno gwelliant i’r bil a fydd yn cael ei drafod heddiw yn ystod Pwyllgor Addysg y Senedd.

Dywedodd Dr Dan Evans, ymchwilydd addysg sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chynllunio’r cwricwlwm newydd, y byddai peidio â gwneud y pwnc yn orfodol yn arwain at “ddarpariaeth amrywiol yn amodol ar allu ysgolion ac athrawon sydd eisoes yn rhy brysur”. Cyhuddodd Dr Evans Lywodraeth Cymru o gamddeall realiti addysgu.

Cododd adolygiad ar addysg hanes Cymru gan y Pwyllgor Diwylliant, Iaith a Chyfathrebu Cymru ym mis Tachwedd 2019 bryderon ynghylch addysg hanes Cymru, ac argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu Estyn i gynnal adolygiad thematig o ‘gynnwys a safon addysgu hanes yn ein hysgolion'. Nododd mai ‘Dim ond ar ôl cael tystiolaeth gadarn o ran natur a maint yr addysgu presennol y gellir gwneud asesiadau i lywio’r gwaith o gyflwyno Cwricwlwm i Gymru 2022’.

Mae'r adolygiad hwn wedi'i ohirio fodd bynnag oherwydd yr amhariad i addysgu yn ystod y pandemig, ac ni ddisgwylir tan hydref 2021.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS,

“Mae Plaid Cymru wedi galw ers tro i hanes Cymru fod yn elfen orfodol o’r cwricwlwm newydd.

“Mae dysgu a deall treftadaeth Cymru a’n lle yn y byd yn hawl y mae holl ddisgyblion Cymru yn eu haeddu, ac yn hanfodol wrth sicrhau bod disgyblion Cymru yn ‘ddinasyddion gwybodus Cymru a’r byd’, fel y mae’r bil yn ei argymell. Felly mae angen i stori genedlaethol Cymru, gan gynnwys hanes pobl du a phobl o liw, fod yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd - wedi'i chynnwys ar wyneb y Bil a'i chefnogi gydag adnoddau a hyfforddiant i athrawon. Mae'n siom fawr fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y syniad hwn dro ar ôl tro.

“Ni allwn ganiatáu i’n plant a’n pobl ifanc dibynnu ar loteri cod post pan ddaw at y cwricwlwm newydd - anochel os nad oes casgliad o wybodaeth orfodol a cyffredin i ysgolion ei addysgu.”

Meddai Ymchwilydd Addysg, Dr Dan Evans,

“Os na fydd hanes Cymru yn dod yn elfen orfodol o’r cwricwlwm newydd, prin fydd y canllawiau i ysgolion er mwyn ei addysgu a’i weithredu ac yn y pen draw, bydd yn annhebygol iawn ei fod yn cael ei ddysgu. Mae gwrthod gwneud dysgu hanes Cymru yn orfodol yn golygu bydd darpariaeth amrywiol yn amodol ar allu ysgolion ac athrawon sydd eisoes yn rhy brysur yn arwain at ddiffyg cysondeb.

“Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru ddim yn deall realiti addysgu a'r amser a'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i athrawon o ganlyniad i doriadau cyllid dros y degawd diwethaf.

“Fe ddylwn ni ddysgu gwersi o’r Cwricwlwm Cymreig, a oedd â photensial anhygoel i ddatblygu ymdeimlad dinesig o hunaniaeth Gymreig ymhlith disgyblion ond heb y gweithrediad cywir. Ni chefnogwyd athrawon â digon o wybodaeth nac adnoddau ac ni chyflawnwyd ei nodau o ganlyniad.

“Bydd hanes Cymru yn wynebu’r un dynged os na chaiff ei weithredu’n iawn a’i wneud yn rhan orfodol o’r cwricwlwm newydd.”