Mae Plaid Cymru yn addo Awdurdod Datblygu Cenedlaethol newydd i dyfu economi Cymru

Heddiw, bydd Llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi, Luke Fletcher AS, yn annerch Cynhadledd Flynyddol y blaid yng Nghaerdydd, gan amlinellu cynllun ei blaid i dyfu economi Cymru.

Dywedodd Mr Fletcher y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn rhoi blaenoriaeth i dyfu a gwyrddu'r economi drwy sefydlu Awdurdod Datblygu Cenedlaethol newydd a Banc Datblygu diwygiedig.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru fod economi Cymru wedi mynd “am yn ôl” o dan Lafur – sydd wedi llywodraethu Cymru ers 25 mlynedd – gyda GDP, GVA, ac incwm i gyd yn sefyll yn stond.

Dywedodd nad oedd gan Lafur “unrhyw gynllun” ar gyfer economi Cymru.

Dywedodd y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn dechrau ar y gwaith “o’r diwrnod cyntaf” ar osod sylfeini’r economi ac yn sefydlu “siop un stop” i gefnogi busnesau bach a chanolig eu maint, gan sicrhau eu bod yn ffynnu.

Mae disgwyl i lefarydd economi Plaid Cymru, Luke Fletcher, ddweud,

“O dan lywodraethau Llafur olynol, mae datblygiad economaidd yng Nghymru wedi mynd tuag yn ôl. Cynnyrch Mewnwladol Crynswth, Gwerth Ychwanegol Crynswth, lefelau arloesi, incwm: i gyd yn llonydd.

“A beth mae’r mesuriadau economaidd hyn yn ei olygu mewn gwirionedd? Mae bron i draean o'n plant yn byw mewn tlodi.

“Ac yn hytrach na defnyddio ystod gynyddol o ysgogwyr economaidd i ailedrych ar ac ailddyblu ymdrechion i gyrraedd y targedau hynny, mae Llafur yn hytrach wedi eu gollwng yn gyfan gwbl. Yn union fel ar Tata, nid oes gan Lafur gynllun ar gyfer economi Cymru.

“Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio, o’r diwrnod cyntaf, ar osod y sylfeini hanfodol hynny i’n heconomi.

“Ac mewn termau syml, nid ydym yn berchen ar ddigon yng Nghymru ar hyn o bryd – digon o’n hadnoddau, sefydliadau neu fusnesau ein hunain – i ddechrau troi’r llanw economaidd.

“Mae popeth yn ein cynllun economaidd newydd wedi’i anelu at fynd i’r afael â’r broblem ganolog hon yn economi wleidyddol Cymru. Mae’r ystod o fesurau gorgyffwrdd yn y cynllun yn ymwneud ag ail-leoli ein heconomi, adeiladu ac arloesi.

“Bydd arloesedd yn cael ei gefnogi ymhellach gan asiantaeth arloesi bwrpasol newydd i Gymru.

“A bydd ymdrechion i dyfu a gwyrddu’r economi yn cael hwb o’r newydd gan Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd a Banc Datblygu diwygiedig.

 

“Byddwn yn rhesymoli ac yn gwella’r cymorth busnes sydd gan Gymru ar hyn o bryd drwy greu ‘siop un stop’ go iawn i’r rhai sydd am fynd â’u busnes i’r cam nesaf.

“Bydd y pwyslais ar sicrhau bod busnesau llwyddiannus yn aros yma yng Nghymru, yn lle cael eu gwerthu a’u diddymu yn Lloegr.

“Ynghyd â mesurau eraill i gefnogi’r busnesau bach a chanolig sy’n asgwrn cefn i economi Cymru – gan gynnwys diwygio ardrethi busnes – ein nod fydd goresgyn o’r diwedd yr her o lenwi ‘Canol Coll’ Cymru – i greu cyfres o fusnesau canolig llwyddiannus a chynaliadwy, sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau ac sy’n sbarduno arloesedd a buddsoddiad.

“Gall ac fe ddylai economi Cymru wasanaethu pobl Cymru – nid y ffordd arall. Mae’r egwyddor ganolog honno, a bydd bob amser, wrth galon fy agwedd i ac agwedd Plaid Cymru at ddatblygu economaidd.

“Ac yn 2026, bydd gennym ni gyfle hanesyddol i roi’r egwyddor honno wrth galon Llywodraeth Cymru.