‘Mae pobl Cymru wedi anfon neges glir i San Steffan – ni allwch anwybyddu ein lleisiau mwyach’ - Plaid Cymru
Plaid Cymru i wthio am Fesur Cymru newydd a galw am ragor o bwerau
Heddiw (dydd Llun 18 Mai) mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i Araith y Brenin yn galw am Fesur Cymru newydd. Mae'r gwelliant yn nodi galwadau am bwerau cryfach, gan gynnwys datganoli isadeiledd rheilffyrdd, Ystâd y Goron, cyfiawnder a phlismona, dŵr a nawdd cymdeithasol i Gymru.
Mae Plaid Cymru wedi galw am ddisodli Fformiwla Barnett gyda setliad sy'n adlewyrchu anghenion Cymru ac i roi terfyn ar y tan-ariannu gan Lywodraeth y DU o feysydd heb eu datganoli. Yn ogystal â hyn, maent wedi galw am gynyddu capasiti benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS, arweinydd y blaid yn San Steffan, y gall pobl Cymru weld nad ydyn nhw'n cael 'triniaeth deg' gan San Steffan a bod bellach gan ei phlaid fandad clir i ymladd dros y pwerau hyn.
Roedd Llafur wedi dominyddu yng Nghymru ers 100 mlynedd, ond daeth Plaid Cymru â hynny i ben ar 7 Mai drwy ddod y blaid fwyaf. Yr wythnos diwethaf, etholwyd Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog a chyhoeddodd gabinet ei Lywodraeth.
Ddydd Iau (14 Mai) cafodd Rhun ap Iorwerth a Keir Starmer eu galwad gyntaf. Cadarnhaodd Prif Weinidog y DU y byddai'n agored i sgwrs ar bwerau sy'n ymwneud â datganoli ar ôl i Brif Weinidog Cymru egluro ei fod yn dymuno negodi ar fformiwla Barnett, cyllid teg, pwerau benthyca, rheilffyrdd a datganoli pellach.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts:
“Mae canlyniad etholiad y Senedd yn cynrychioli rhywbeth llawer mwy na’r ffaith fod pobl Cymru wedu gwrthod status quo aflwyddiannus Llafur ac ymdrechion Reform i rannu ein cymunedau gydag ofn. Mae'r twf mewn cefnogaeth i Blaid Cymru ym mhob rhanbarth o Gymru yn dangos newid sylfaenol yng ngobaith a dyheadau pobl ar gyfer ein cenedl. Nid dyma’r gorau y gall pethau fod i Gymru, ac mae Plaid Cymru wedi dangos hynny gyda'n cynlluniau uchelgeisiol a chredadwy ar gyfer llywodraeth.
“Gall pobl hefyd weld nad yw Cymru'n cael y driniaeth deg yr ydym yn ei haeddu. O anghyfiawnder HS2 i'r cyfoeth o'n hadnoddau naturiol yn cael ei anfon i San Steffan, i'r tan-ariannu cronig o wasanaethau allweddol. Dyna pam y gwnaethon nhw bleidleisio dros Blaid Cymru, ac mae gennym fandad clir nawr i ymladd dros y pwerau hyn.
“Roedd yn siomedig bod Araith y Brenin wedi methu ag adlewyrchu awydd pobl Cymru am newid go iawn. Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i Araith y Brenin yn galw am Fesur Cymru newydd lle byddwn yn nodi pam a sut mae pwerau cryfach a chyllid teg i’n cenedl yn angenrheidiol i sicrhau’r newid sydd ei angen ar Gymru.
“Os yw Keir Starmer o ddifrif ynglŷn â bod yn ‘agored’ i drafod mwy o bwerau i Gymru, yna dylai ei Lywodraeth wrando ar ein gofynion am Fesur Cymru newydd. Mae pobl Cymru wedi anfon neges glir i San Steffan – ni allwch anwybyddu ein lleisiau mwyach.”